Ydi neges Gwenllian yn golygu, felly, nad "Rhybudd Talu Cosb" yw'r term Cymraeg swyddogol am "Penalty Charge Notice" - O diar - a minnau'n meddwl bod y mater wedi'i setlo! Rhyfedd na fyddai rhyw adran gyfreithiol neu rywbeth yn rhoi sêl bendith ar bethau fel hyn cyn iddyn nhw fynd i'r cyhoedd. Geraint - o'n i'n meddwl mai Ann Rhinweddol oedd honno. Ond efallai mai ar ôl iddi gael ei dadgriminaleiddio oedd hynny! Siân On 15 Chwef 2007, at 12:05, Gwenllian Mair Williams wrote: > Rhyfedd iawn - mae hyn yn dangos nad ydi'r Cynghorau yn gallu > penderfynu pa > dermau i'w defnyddio. > Wedi cyfieithu adroddiad ar yr un testun wythnos diwetha i un o > adranau'r > Cyngor, ac wedi dilyn y cyfarwyddiadau gefais i ganddyn nhw. > > 'dadgriminaleiddio' am decriminalisation > hysbysiad yn hytrach na rhybudd.. a.. > doeddwn i ddim yn deall pam defnyddio cosb yn hytrach na dirwy chwaith > ... ond dyna ni, doedd gen i ddim awdurdod i newid nac amau, a > gorfod glynu > at eu rhestr nhw wnes i. > > Pa obaith sydd gan gyfieithydd bach i drio cysoni os nad ydy nhw'n > gallu > penderfynu be mae nhw'n ei ddefnyddio eu hunain?! > > Gwenllian > > ----- Original Message ----- > From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Thursday, February 15, 2007 11:27 AM > Subject: Re: Penalty Charge Notice > > > Naci - "Annrhoseddol" > On 15 Chwef 2007, at 10:54, Geraint Løvgreen wrote: > >> "anhroseddol" gobeithio... >> >> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" >> <[log in to unmask]> >> To: <[log in to unmask]> >> Sent: Thursday, February 15, 2007 10:05 AM >> Subject: Re: Penalty Charge Notice >> >> >> Cefais daflen trwy'r post ddoe, wedi'i pharatoi gan Gyngor Gwynedd >> a Chyngor Ynys Môn. >> "Rhybudd Talu Cosb" a ddefnyddir ynddi am "Penalty Charge Notice". >> >> Ond mae'n dweud "Beth yw'r ddirwy?" am "What's the penalty?" a "... >> mae'n bosib y byddwch yn >> canfod Rhybudd Talu Cosb - sef Dirwy Parcio - ar ffenest eich >> cerbyd ..." am "... you may find a >> Penalty Charge Notice - a Parking Ticket - on your windscreen ..." >> >> Gweinyddwyr Parcio'r Cyngor yw'r enw ar y Council Parking Attendants. >> >> (Mae ganddyn nhw swydd ddifyr ar Ynys Môn, gyda llaw: >> "Decriminalised Parking Manager" / "Rheolwr Parcio Annrhoseddol" - >> sgwn i beth oedd y cradur yn >> neud cyn iddo droi dalen newydd)