Rhyfedd iawn - mae hyn yn dangos nad ydi'r Cynghorau yn gallu penderfynu pa dermau i'w defnyddio. Wedi cyfieithu adroddiad ar yr un testun wythnos diwetha i un o adranau'r Cyngor, ac wedi dilyn y cyfarwyddiadau gefais i ganddyn nhw. 'dadgriminaleiddio' am decriminalisation hysbysiad yn hytrach na rhybudd.. a.. doeddwn i ddim yn deall pam defnyddio cosb yn hytrach na dirwy chwaith ... ond dyna ni, doedd gen i ddim awdurdod i newid nac amau, a gorfod glynu at eu rhestr nhw wnes i. Pa obaith sydd gan gyfieithydd bach i drio cysoni os nad ydy nhw'n gallu penderfynu be mae nhw'n ei ddefnyddio eu hunain?! Gwenllian ----- Original Message ----- From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, February 15, 2007 11:27 AM Subject: Re: Penalty Charge Notice Naci - "Annrhoseddol" On 15 Chwef 2007, at 10:54, Geraint Løvgreen wrote: > "anhroseddol" gobeithio... > > ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" > <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Thursday, February 15, 2007 10:05 AM > Subject: Re: Penalty Charge Notice > > > Cefais daflen trwy'r post ddoe, wedi'i pharatoi gan Gyngor Gwynedd > a Chyngor Ynys Môn. > "Rhybudd Talu Cosb" a ddefnyddir ynddi am "Penalty Charge Notice". > > Ond mae'n dweud "Beth yw'r ddirwy?" am "What's the penalty?" a "... > mae'n bosib y byddwch yn > canfod Rhybudd Talu Cosb - sef Dirwy Parcio - ar ffenest eich > cerbyd ..." am "... you may find a > Penalty Charge Notice - a Parking Ticket - on your windscreen ..." > > Gweinyddwyr Parcio'r Cyngor yw'r enw ar y Council Parking Attendants. > > (Mae ganddyn nhw swydd ddifyr ar Ynys Môn, gyda llaw: > "Decriminalised Parking Manager" / "Rheolwr Parcio Annrhoseddol" - > sgwn i beth oedd y cradur yn > neud cyn iddo droi dalen newydd)