llus / llys hyd / hud cryd/ crud Tony Blêr ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, February 01, 2007 10:43 AM Subject: Re: Geiriau sy'n swnio'n debyg ond ag ystyr cwbl wahanol Onid yw llawer o'r enghreifftiau'n dibynnu ar eich ardal a'ch ynganiad? I ddangos fy mod i'n ddysgwraig o hyd, mi dreuliais i oesoedd efo'n dosbarth cyfieithu yn y Blaenau, yn ystafell y cyfrifiaduron, yn ceisio eu cael nhw i ddeall ble i glicio, a finnau'n dweud "ar y saith" yn lle "ar y saeth". 'Roedd gan Hywel Harries y cartwnydd lun o ddyn yn wynebu ciper ar lan yr afon, gan ddangos ei ddwylo gwag a dweud "di-euog, syr". Mae gan Bruce ryw joc ofnadwy am hen wraig yn gweiddi ar ol dyn y lori lo: "Pryd ga i i lo?" "Mae'n dibynnu pryd gawsoch chi darw, misus." Ann ----- Original Message ----- From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, February 01, 2007 9:43 AM Subject: Re: Geiriau sy'n swnio'n debyg ond ag ystyr cwbl wahanol A gallai ffurfiau treigledig chwyddo nifer yr homonymau hefyd: Ffin / phin (< pin) Ffws / phws ( >^..^< ) A cheir hefyd frawddegau hollol fwys, megis: Mae'r dyn hwn yn faswr da! Prynais i lo. Ac i goroni'r cwbl, rai blynyddoedd yn ôl, wrth sôn am ferch a oedd ar y pryd mewn swydd gyhoeddus, dywedodd ffrind imi fod rhai wedi'i galw'n "feic y werin" pan oedd yn ifanc. Doeddwn i ddim yn siwr ai 'meic y werin' (lladmerydd dros y bobl gyffredin) ynteu;'r llall oedd yr ystyr! Rwy'n berffaith siwr fod mwy na hynny o ymadroddion/geiriau mwys / homonymau ar gael, efallai y daw'r isymwybod â mwy o atebion imi maes o law. Helen Ysgrifennodd Cathrin Alwen: > Oes unrhyw un yn gwybod am eiriau Cymraeg sy'n swnio'n debyg i'w gilydd > ond ag ystyr cwbl wahanol? Rydw i heb ddeffro'n iawn bore ma, ac yn methu > meddwl am un enghraifft! > > Cathrin > -- Helen Smith (Cyfieithydd/Translator) Canolfan Bedwyr [log in to unmask] Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external) est/ext 3253 (mewnol/internal) >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< -- Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor. The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance Office. www.bangor.ac.uk -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.432 / Virus Database: 268.17.18/662 - Release Date: 31/01/2007 15:16