Print

Print


Beth am "Rheolwr Ardal, Gwerthu" ?

Siān


On 26 Chwef 2007, at 20:35, John Puw wrote:

> Ac ymddengys fod Hywel am wahaniaethu rhwng y Rheolwr Rhanbarthol a'r
> Rheolwr Ardal.  Rwy'n gwybod fod amwysedd ynghylch y term yn  
> Gymraeg, ond
> mae ardal yn sicr yn llawer mwy derbyniol gair nag ardalyddol!!!
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siān Roberts
> Sent: 26 February 2007 20:25
> To: John Puw
> Subject: Re: ATB: Area Sales Manager
>
> Ond mae'n bosib bod Rhanbarth yn ehangach nag Ardal.
> Dibynnu ar y corff dan sylw.
>
> Siān
>
> On 26 Chwef 2007, at 19:28, Huw Garan wrote:
>
>> Wela' i ddim byd o'i le ar 'Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol' =
>> Regiional a '~
>> Ardal' = Area.  Mae'n ddigon cryno, yn ddealladwy ac yn swnio'n  
>> ddigon
>> naturiol.
>>
>> Hg
>>
>>
>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology  
>> and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siān
>> Roberts
>> Anfonwyd/Sent: 26 February 2007 18:02
>> At/To: [log in to unmask]
>> Pwnc/Subject: Re: Area Sales Manager
>>
>> Swn i'n osgoi "ardalyddol".
>> Nyrs ardal yw "district nurse" ond mae peryg i "Rheolwr Gwerthu
>> Ardal" a
>> "Rheolwr Gwerthu'r Ardal" swnio fel pe bai'r truan yn gorfod  
>> gwerthu'r
>> ardal.
>> Ydi "Rheolwr Gwerthu ar gyfer yr Ardal" yn ormod o lond ceg.
>> Weithiau, mae'n haws os yw'n dweud pa ardal "Rheolwr Gwerthu, Ardal
>> y De"
>> Beth am "Rheolwr Gwerthu Lleol" neu "Rheolwr Gwerthiant yr Ardal"?
>> Mae GyrA yn cynnig "Rhanbarthol" am "Area" yn y math hwn o gyd-
>> destun ond
>> mae'n debyg eich bod chi eisiau gwahaniaethu rhwng Rhanbarth ac  
>> Ardal.
>>
>> Hwyl
>> Siān
>>
>> On 26 Chwef 2007, at 15:27, Howard Huws wrote:
>>
>>> Eich cymorth i dorri dadl, os gwelwch yn dda:
>>> Os "Regional Sales Manager" = "Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol"
>>>    "Area Sales Manager" = "Rheolwr Gwerthu Ardal" ynteu  
>>> "Ardalyddol"?
>>>
>>> Gwerthfawrogir pob awgrym.
>
> -- 
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.4/702 - Release Date:  
> 25/02/2007
> 15:16
>
>
> -- 
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.4/702 - Release Date:  
> 25/02/2007
> 15:16
>