Ysgrifennodd Berwyn Jones: > Gair o rybudd: rwy'n credu i Delyth (Prys) esbonio rywbryd mai symbol > ryngwladol yw 'c mewn cylch' erbyn hyn a bod iddi, felly, rym > cyfreithiol. Mae'n debyg, felly, nad yw 'h mewn cylch' yn diogelu dim > ar hawlfraint yn llygaid y gyfraith. > Jyst i gadarnhau fod yr c mewn cylch yn symbol rhyngwladol. Mae symbol rhyngwladol yn wahanol i fyrfodd (sy'n benodol i ieithoedd gwahanol) e.e. mae s yn symbol rhyngwladol am eiliad, ac er y gallech ddefnyddio e fel byrfodd Cymraeg, fydd e ddim yn cael ei ddeall y tu allan i Gymru. Bwriad yr c mewn cylch felly yw rhybuddio unrhyw un nad yw'n deall iaith y testun fod hawlfraint arno, ac nad yw'r ffaith nad ydynt yn deall yr iaith yn eu hesgusodi rhag parchu'r hawlfraint. Delyth > Berwyn > -- Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol Cymru Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma: http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer This email is subject to the terms and conditions of the University of Wales, Bangor email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here: http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer