Yn ôl Geiriadur yr
Academi:
Newbridge (Wrexham) :
Cefnbychan
Newbridge (Gwent) :
Trecelyn
Newbridge on Wye (Powys) : Y Bontnewydd ar
Wy
(wedi
newid y pennawd rhag ofn y bydd y rhain yn handi i rywun,
rywdro)
Cofion
gorau,
Huw
Does gen i ddim ateb mae arna i ofn - dim ond eisiau taflu
cwestiwn arall i'r pair!
Ai Trecelyn yw'r enw am 'Newbridge' ger Casnewydd ?
Diolch ymlaen llaw,
Cathrin
Y peth cyntaf ddaeth
i'r meddwl oedd 'traphont Trecelyn' (sef (pen)tref 'Newbridge' yng Ngwent) ond
does dim enghreifftiau o hyn ar Google ac mae'n bosibl nad dyna ystyr
'Newbridge' ond yn hytrach ei fod yn cyfeirio at newydd-deb y bont. Oes
unrhyw gliwiau yn y testun?
Hg
Bore da,
Tybed all rhywun sy'n gyfarwydd â
Phontypridd ddweud wrtha i a oes enw Cymraeg ar draphont Newbridge yn y
dre?
Diolch.
Geraint