Print

Print


** Ymddiheuriadau am groes-bostio. Neges ddwyiethiog yw hon, a gwelwch y testun Saesneg ar diwedd y neges. ** 
** Apologies for cross-posting. This is a bilingual message, the English text can be found towards the end of the message. ** 

++++++++++

Erbyn hyn, mae awdurdodau cyhoeddus yn gorfod cydymffurfio â'r Ddyletswydd i Sicrhau Cydraddoldeb i Bobl Anabl a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr 2006.  Mae'r ddyletswydd statudol newydd hon yn mynnu bod awdurdodau cyhoeddus yn ymroi i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bobl anabl ac i atal y math o wahaniaethu sydd eisoes yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.

Mae CyMAL wedi paratoi arweiniad byr i'r Ddyletswydd i Sicrhau Cydraddoldeb i Bobl Anabl ac mae i'w weld yn http://www.cymal.cymru.gov.uk/. 

Mae'n rhoi cyflwyniad i'r Ddyletswydd, gan nodi sut y gallai effeithio ar amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru, ac mae'n cynnwys gwybodaeth am ffynonellau gwybodaeth a chyngor eraill. Arweiniad y gellir ei ddarllen yn sydyn ydyw a'r bwriad yw rhoi trosolwg i'r holl staff sy'n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd o'r cyfrifoldebau newydd.  

Mae'r arweiniad ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg mewn teip clir 12 pwynt y gellir ei chwyddo i deip mawr.  Os bydd arnoch angen copi mewn fformat arall, gallwch ffonio CyMAL ar 01970 610231 neu e-bostio [log in to unmask] i holi am ragor o wybodaeth.

Nid yw arweiniad CyMAL yn ganllaw terfynol i'r gyfraith ac, os ydych chi'n ymwneud â gweithredu'r Ddyletswydd i Sicrhau Cydraddoldeb i Bobl Anabl ar lefel polisi neu gynllunio neu ar lefel strategol, dylech geisio a darllen copi o'r Cod Ymarfer Statudol, a baratowyd gan y Comisiwn Hawliau Anabledd. Ceir cysylltiadau i'r Cod yn yr arweiniad neu gallwch fynd yn syth i'r Cod yn <http://www.drc-gb.org/about_us/cha_cymru/llyfrgell/cyhoeddiadau/dyletswydd_i_hyrwyddo_cydraddo.aspx>. 

Katherine Thomas
Cynghorydd Cyfleoedd Cyfartal
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru

--------------------

Public authorities are now subject to a new Disability Equality Duty which came into force on 4 December 2006.  This new statutory duty requires public authorities to pro-actively promote equality of opportunity for disabled people as well as to prevent discrimination already unlawful under the Disability Discrimination Act 1995.

A short guide to the Disability Equality Duty has been prepared by CyMAL and is now available at www.cymal.wales.gov.uk.

It provides an introduction to the Duty, highlighting how it may affect museums archives and libraries in Wales, and includes information on further sources of information and advice. It is a 'quick-read' guide designed to give an overview of the new responsibilities for all staff working in museums, archives and libraries.  

The guide is available in Welsh and English in 12 point clear print that can be blown up to large print size.  If you need to receive a copy in another format, please contact CyMAL on 01970 610231 or send an email to [log in to unmask] for further information.

The CyMAL guide is not a definitive guide to the law and, if you are involved in implementing the Disability Equality Duty at a policy, planning or strategic level you should obtain and read a copy of the Statutory Code of Practice, prepared by the Disability Rights Commission.  Links to the Code are given in the guide.  Alternatively, link directly to the Code at http://www.drc.org.uk/Docs/Code_19_10_mp_marked.proofed_CA.doc 

Katherine Thomas
Equal Opportunities Adviser/Cynghorydd Cyfleoedd Cyfartal
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales/Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru

Siân Hughes

Swyddog Mynediad, Dysgu a TGCh / Access, Learning and ICT Officer
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Llwodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government

-------------------------------------------------------------------------------
Ffon/Tel : 01970 610 231
Ffacs/Fax : 01970 610 223
Ebost/Email : mailto:[log in to unmask]
-------------------------------------------------------------------------------

> Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.
> 
> Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of the National Assembly for Wales, any constituent part or connected body.
> 
> 

The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.

On leaving the GSi this email was certified virus-free.

Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.

Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.