Llawer iawn o ddiolch, Paul. Mae'r wybodaeth hon am Fae Newydd o fudd mawr. Beth rydych chi'n feddwl am y sillafiad o'r gair 'anchor', sef 'ancere'? Ydy o'n rhywbeth i'w wneud efo'r hen ffurf Saesneg 'ancer'? Tybed ddylwn i wneud rhywbeth i gyfleu hyn yn y Gymraeg. Dwi wedi edrych yn GPC ac 'angor' yw 'angor' ers y 12fed ganrif (er bod un cyfeiriad at 'bvru aghoreu). Neu a ddylwn i roi nodyn yn rhywle i ddweud mai fel hyn y cafodd ei sillafu yn yr iaith wreiddiol? Llawer o ddiolch eto Eluned On 12/8/06, Pawl <[log in to unmask]> wrote: > Mae hyn yn swnio'n debyg iawn i gyfeiriad at Bae Newydd neu Bahia Nueva ym Mhatagonia lle cynhaeddodd y Mimosa yng Nghorffennaf1865. Bae Newydd oedd y ffurf ar lafar am gryn amser ar ôl hynny. Daeth yr enw Porth Madryn i ddisodli'r hen enw erbyn diwedd y ganrif. Ceir nifer o ddogfennau o'r cyfnod yn Gymraeg sydd weithiau cadw at yr enw Saesneg New Bay. > > Paul W Birt > Paul W. Birt, PhD > Chaire d'Études celtiques, > Université d'Ottawa, > 70, rue Laurier,(131) > Ottawa, > K1N 6N5 > Ontario > Canada > www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html > Tél. (613)562-5800(3767) > Téléc/Fax (613)562-5138. > > > -----Original Message----- > From: Eluned Mai <[log in to unmask]> > Date: Thu, 7 Dec 2006 22:50:08 > To:[log in to unmask] > Subject: Droped ancere New Bay > > Mae hwn allan o ddyddlyfr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Oes rhywun > wedi dod ar draws y math yma o beth o'r blaen? Beth ddylid ei wneud > wrth gyfieithu? > > Diolch o flaen llaw > > Eluned >