Print

Print


Credaf mai enw a arferir ar lafar ers amser gan naturiaethwyr yw Pluen Parot 
ac mai dyna paham yr oedd panel enwau C E Llwyd o'i blaid. Ni theimlent y 
dylent newid enw a oedd yn gwbl gartrefol yn eu plith, ac un hawdd a 
chofiadwy, am un purach a chysonach. Ni chlywais sôn am y planhigyn cyn mynd 
i'w cynghori hwy.

Rhisiart


Message ----- 
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <>
Sent: Wednesday, December 13, 2006 4:17 PM
Subject: Re: Planhigion ymledol


> Mae'r ddau enw yng Ngeiriadur yr Academi.
>
> Mae 'water milfoil' dan y gair 'milfoil'.  Yno ceir 'myrdd-ddail' 
> (Myriophyllum); 'milddail' yw Achillea millefolium.
> Gweler 'Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn' Cymdeithas Ed. Llwyd, t. 
> 41. Nid yr un teulu yw Achillea (milfoil = milddail) a Myriophyllum 
> (myrdd-ddail).  Yno gelwir M. aquaticum - parrot's feather - yn 'pluen 
> parot', cyfieithiad slafaidd nad yw'n gyson a'r enwau ar aelodau eraill 
> o'r teulu.
>
> Ceir 'fairy fern' dan y gair 'fairy'.  Yno ceir 'pelydr bychan', g.  Fel 
> arfer ystyr 'fairy' mewn enwau o'r fath yw 'bychan'.
>
> Bruce
>
> ----- Original Message ----- 
> From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, December 13, 2006 3:10 PM
> Subject: Planhigion ymledol
>
>
> A oes enwau Cymraeg ar gyfer y planhigion ymledol estron canlynol, os
> gwelwch yn dda?
>
> "Parrot's Feather \ Water Milfoil" (Myriophyllum aquaticum)
> "Fairy fern" (Azolla filiculoides)
>
> A dilyn y Lladin, "Milddail y Dwr" ar gyfer y cyntaf, efallai. 'Dyw'r
> Lladin fawr o gymorth efo'r ail, gan mai ystyr "filiculoides" yw "tebyg i
> redynen". Rhedynen y Tylwyth Teg, efallai?
>
>
> -- 
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.432 / Virus Database: 268.15.18/584 - Release Date: 
> 12/12/2006 23:17
>