Rwy'n gweithio ar ddarn am y gwasanaethau cymdeithasol. Mae angen cyfieithu "reactive". Y gair cynta ddaeth i'm meddwl oedd "adweithiol" ond cofiais fod hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer "reactionary". O edrych yn y geiriaduron, gwelaf fod GyrA yn rhoi "adweitheddol" am "reactive" ac "adweithiol" am "reactionary" ond bod Termau Gwaith a Gofal Cymdeithasol yn rhoi "adweithiol" am "reactive". Byddai'n well gen i ddefnyddio "adweithiol" os oes modd - mae'n gliriach - a hoffwn gadarnhad ei fod yn cael ei ddefnyddio ym maes gwaith a gofal cymdeithasol - plis!