Print

Print


Y broblem, wrth gwrs, yw bod angen gwahaniaethu rhwng aceniad 'Penyberth' ac aceniad 'Penygroes' gan i lawer ohonon ni roi'r acen ar yr elfen 'berth' yn 'Penyberth' tan i rywun ddweud mai ar yr 'y' y mae'r acen.

Heb fod ymhell o Aberhonddu mae arwydd at bentref bach 'Talachddu'. Ble mae'r acen i fod ar hwn'na? Gan mai'r ffurf yn y Gazetteer yw 'Talach-ddu', dyna ni'n gwybod yn syth ble mae'r acen i fod ...

Does mo'r un system yn berffaith, ond os ydyn ni bwriadu newid patrwm orgraff enwau lleoedd Cymraeg bydd angen newid trefn orgraffyddol y Gymraeg drwyddi draw.

On'd yw cysondeb yn boen?!

Berwyn
  ----- Original Message ----- 
  From: Geraint Løvgreen 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Wednesday, November 15, 2006 9:16 AM
  Subject: Re: Exeter


  Dwi'm yn or-hoff o gysylltnodau diangen fy hun - mae Penygroes yn edrych yn well na Pen-y-groes. Does na neb yn ei gam-ynganu am nad ydi'r cysylltnodau yno. Ac os ydi Caerdydd yn cael bod yn eithriad, pam y dylai'r ddinas honno gael pob dim ar draul Talybont a'r lleill?

  ;-)

  Geraint
    ----- Original Message ----- 
    From: Rhisiart Hincks 
    To: [log in to unmask] 
    Sent: Wednesday, November 15, 2006 6:54 AM
    Subject: Re: Exeter


    Mae Caerdydd yn eithriad, heb os nac oni bai, ond paham amlhau eithriadau a mynd yn groes i ganllawiau sy'n dangos yr ynganiad? Mae'r Lolfa yn mynnu camsillafu Tal-y-bont fel Talybont, ac mae enghriefftiau dirifedi eraill o ystyfnigrwydd yn y maes hwn, gan gynnwys Criccieth - yr eithriad par excellence.  Beth am gael cysonder hyd y bo modd? 
      ----- Original Message ----- 
      From: Geraint Løvgreen 
      To: [log in to unmask] 
      Sent: Tuesday, November 14, 2006 10:01 AM
      Subject: Re: Exeter


      Dilyn patrwm 'Caerdydd' am wn i. Faswn i ddim yn rhoi cysylltnod yng Nghaergrawnt.
        ----- Original Message ----- 
        From: Berwyn Jones 
        To: [log in to unmask] 
        Sent: Tuesday, November 14, 2006 8:39 AM
        Subject: Re: Exeter


        Tipyn o syndod oedd sylwi, adeg cyhoeddi Geiriadur yr Academi, fod y cysylltnod wedi'i ddileu o 'Caer-grawnt' a 'Caer-gaint'. Ffurfiau di-gysylltnod sydd hefyd i'w gweld yn Atlas Cymraeg Newydd CBAC.

        Yn y Geiriadur Bach a'r Geiriadur Newydd, ceir y ffurfiau 'Caergrawnt' a 'Caergaint', ond erbyn y Geiriadur Mawr a'r Geiriadur Cymraeg Cyfoes, caswai'r ffurfiau hynny eu newid i 'Caer-grawnt' a 'Caer-gaint'.

        'Caer-gaint' yw'r ffurf sydd gan Melville Richards yn Enwau Gwlad a Thref (td. 73).

        Tybed a allai Bruce ddweud wrthym pam y colllwyd y cysylltnod?

        Berwyn

        ----- Original Message ----- 
        From: "Rhisiart Hincks" <[log in to unmask]>
        To: <[log in to unmask]>
        Sent: Tuesday, November 14, 2006 7:59 AM
        Subject: Re: Exeter


        > Tybed onid Caer-wysg (cf. Caer-grawnt) a fyddai'n gywir, a'r aceniad yn 
        > wahanol i Caerwys?
        > 
        > Rhisiart
        > ----- Original Message ----- 
        > From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
        > To: <[log in to unmask]>
        > Sent: Monday, November 13, 2006 11:51 AM
        > Subject: Re: Exeter
        > 
        > 
        > Wedi gweld erbyn hyn fod y ffurf "Cair Uuisc" yn digwydd yng ngwaith Asser
        > yn y nawfed ganrif.
        > 
        > 
        > 
        > -- 
        > No virus found in this incoming message.
        > Checked by AVG Free Edition.
        > Version: 7.1.409 / Virus Database: 268.14.3/531 - Release Date: 12/11/2006
        > 
        > 


------------------------------------------------------------------------------


  No virus found in this incoming message.
  Checked by AVG Free Edition.
  Version: 7.1.409 / Virus Database: 268.14.5/534 - Release Date: 14/11/2006