Cytuno'n llwyr. Pob iaith dan haul yn gwneud pethau fel hyn. Tim . . . Mae siaradwyr Saesneg yn llwyddo i gyflwyno enwau fel Bangor on Dee a Five Peaks (Pumlumon), eu hoffi neu beidio, ac er y gellid mynd dros ben llestri, efallai nad oes dim o'i le ar ambell ffurf Gymraeg ffug, yn enwedig gan fod y lleoedd eu hunain yn newid yn gyson, o ran maint ac o ran natur eu poblogaeth. Gwn nad dyna a dderbynnir yn gyffredinol heddiw, ond ni welaf paham na all y Gymraeg feddiannu fel y gwna'r Saesneg, ambell dro. Ni fydd dim yn atal y Saeson rhag Seisnigo enwau ar lafar, hyd yn oed os ydynt yn plygu i'w sillafu mewn ffordd draddodiadol. Ymsefydlodd enwau fel Caersalem a Manceinion yn Gymraeg, ac ni welaf i fod dim o'i le arnynt, gwreiddiau byrion neu beidio... Efallai fod modd goddef ambell ddatblygiad newydd, yn lle mynnu cywirdeb hanesyddol yn ddi-ffael? Rhisiart ----- Original Message ----- From: "David Bullock" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, October 31, 2006 12:33 PM Subject: ATB: ATB: Trewent Point Wel, os ydyn ni am ffugio hanes pan fydd hynny'n ateb ein dyheadau gwleiyddol ni, mae'n well i ni fod yn barod gyda dadleuon da i atal pobl sydd â dyheadau gwleidyddol gwahanol pan fyddan nhw'n dechrau defnyddio Fortinarvon a Saltypool a Madoxport. -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Løvgreen Anfonwyd/Sent: 31 October 2006 11:43 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ATB: Trewent Point Mae dros 100 o enghreifftiau o "Ystagbwll" (nid "Ystangbwll") ar Google. Pam bod honno felly yn 'ffurf ffug' yn fwy natg unrhyw Gymreigiad arall o enwau Saesneg? Geraint ----- Original Message ----- From: "David Bullock" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, October 31, 2006 10:17 AM Subject: ATB: ATB: Trewent Point > Mae'n drueni bod yna un gorchymyn gan y Cynulliad yn defnyddio'r ffurf > ffug. > > > Serch hynny, gall dyn faddau un llithriad bach, mae'n debyg, ond fydd 'na > ddim maddeuant am gamsillafu enw Merthyr Tudful yn yr un gorchymyn, fel > Merthyr Tydfil. > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Tim > Saunders > Anfonwyd/Sent: 30 October 2006 21:09 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: ATB: Trewent Point > > Mae e ar gael yn neddfwriaeth y Cynulliad. Tim . . . > > > Mae'n debyg gen i mai yn fwriadol y dywedodd Bruce 'Stackpole' ac nid > 'Ystangbwll'. > > Dim ond 'Stackpole' sydd wedi'i gofnodi gan gan BG Charles, ac mae'r > diffyg > cofnodion hanesyddol yn awgrymu felly mai ffurf ffug yw'r llall, sydd > wedi'i > chreu yn gymharol ddiweddar. > > Oes yna wybodaeth am ble a pha bryd y daeth 'Ystangbwll' i olau dydd? > > > > > > > > _____ > > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Garan > Anfonwyd/Sent: 30 October 2006 19:24 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Trewent Point > > > > Diolch i Bruce a Berwyn. Dylwn fod wedi nodi mai Trewent Point ger > Ystangbwll oedd dan sylw, mae'n ddrwg gen i am hynny. Defnyddiais Trywn > Trewent. > > > > Diolch > > > > Hg > > > >