Cwmni newydd ydi hwn sy'n cael ei sefydlu yn lle'r hen Cardiff Initiative a'u gwaith nhw fydd marchnata 'brand' Caerdydd i'r byd a'i bobl. Mae angen rhestr o enwau Cymraeg posibl er mwyn dethol o'u plith - felly os gallith unrhyw un feddwl am unrhyw beth bachog tu allan i 'Caerdydd yn fyw' a 'Caerdydd fyw' mi fydden ni'n ddiolchgar iawn. Mae'n bosib dehongli'r 'live' mewn unrhyw ffordd dan haul yn ôl be ydw i'n ddallt. Diolch ymlaen llaw.