Dw i'n mynd i ddilyn cyngor Delyth, gan mai hi yw'r arbenigwraig yn y maes (sori, arbenigydd).

Mae'n ddrwg gen i - fi sydd wedi codi helynt diangen drwy wneud yr hyn 'rwy'n ei feirniadu ym mhobl eraill, sef anfon apel at y grwp yn lle edrych yn y lle amlwg, yn yr achos yma, y gwahanol gyhoeddiadau ar ofal iechyd y mae Canolfan Bedwyr wedi ymwneud a nhw. Ar y llaw arall, o edrych y bore 'ma, 'taswn i wedi gwneud hynny, byddai'r ateb wedi dibynnu ar ba un a godais yn gyntaf, gan ei fod yn amrywio o 'gofalwr/cynhaliwr' yn y rhai cynnar, i 'gofalwr/gofalydd' yn nes ymlaen, a 'gofalydd' yn unig yn y rhai diweddaraf. Felly efallai ei bod hi'n beth da tynnu sylw at y defnydd cyfredol wedi'r cyfan!

Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Løvgreen
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, November 29, 2006 9:27 AM
Subject: Re: carer

Pam bod hyn yn dal i gael ei drafod? Dwi'n credu y dylid dilyn yr hyn ddywedodd Delyth Prys am hyn - gofalydd/gofalwyr. Does dim pwynt creu termau pan mae termau eraill yn cael eu defnyddio bob dydd o fewn y proffesiwn.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Rhian Huws
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, November 29, 2006 8:53 AM
Subject: Re: carer

Mae Cyngor Gofal Cymru yn ffafrio 'cynhaliwr'/'cynhalwyr'.
 
Rhian
Canolfan Iechyd Cymru


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 28 November 2006 14:51
To: [log in to unmask]
Subject: carer

Sef, rhywun sy'n gofalu am rhywun ifanc ag anwsterau dysgu.  Beth sy'n arferol, os gwelch yn dda - gofalwr ynteu gofalydd?
 
Diolch,
 
Ann


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.430 / Virus Database: 268.14.19/556 - Release Date: 28/11/2006 15:22