Dw i'n mynd i ddilyn cyngor Delyth, gan mai hi yw'r arbenigwraig yn y maes (sori, arbenigydd). Mae'n ddrwg gen i - fi sydd wedi codi helynt diangen drwy wneud yr hyn 'rwy'n ei feirniadu ym mhobl eraill, sef anfon apel at y grwp yn lle edrych yn y lle amlwg, yn yr achos yma, y gwahanol gyhoeddiadau ar ofal iechyd y mae Canolfan Bedwyr wedi ymwneud a nhw. Ar y llaw arall, o edrych y bore 'ma, 'taswn i wedi gwneud hynny, byddai'r ateb wedi dibynnu ar ba un a godais yn gyntaf, gan ei fod yn amrywio o 'gofalwr/cynhaliwr' yn y rhai cynnar, i 'gofalwr/gofalydd' yn nes ymlaen, a 'gofalydd' yn unig yn y rhai diweddaraf. Felly efallai ei bod hi'n beth da tynnu sylw at y defnydd cyfredol wedi'r cyfan! Ann ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, November 29, 2006 9:27 AM Subject: Re: carer Pam bod hyn yn dal i gael ei drafod? Dwi'n credu y dylid dilyn yr hyn ddywedodd Delyth Prys am hyn - gofalydd/gofalwyr. Does dim pwynt creu termau pan mae termau eraill yn cael eu defnyddio bob dydd o fewn y proffesiwn. Geraint ----- Original Message ----- From: Rhian Huws To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, November 29, 2006 8:53 AM Subject: Re: carer Mae Cyngor Gofal Cymru yn ffafrio 'cynhaliwr'/'cynhalwyr'. Rhian Canolfan Iechyd Cymru ---------------------------------------------------------------------------- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 28 November 2006 14:51 To: [log in to unmask] Subject: carer Sef, rhywun sy'n gofalu am rhywun ifanc ag anwsterau dysgu. Beth sy'n arferol, os gwelch yn dda - gofalwr ynteu gofalydd? Diolch, Ann ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.430 / Virus Database: 268.14.19/556 - Release Date: 28/11/2006 15:22