Print

Print


Diolch Lowri
Fe anfonodd Huw Garan gopi pdf o'r ddogfen ataf ac fe agorodd honno'n iawn.
Mae canllawiau fel hyn yn ddefnyddiol iawn.

Diolch yn fawr
Siân

On 27 Tach 2006, at 15:23, Lowri Williams wrote:

Annwyl Sian

 

Diolch am ddweud wrthym am hyn. Rwyf wedi sôn wrth y swyddogion yma sy’n gyfrifol am y wefan am yr anhawster a gobeithio y bydd ffordd o ddatrys y broblem yn y tymor hwy. Yn y cyfamser maent yn awgrymu eich bod yn cadw’r ddogfen i’ch cyfrifiadur a wedyn yn ceisio’i hagor o’ch ffeiliau chi yn hytrach na’i hagor a’i llwytho i lawr yn uniongyrchol o’r wefan. Gobeithio y bydd hynny’n gweithio ac y bydd y canllawiau o gymorth.

 

Hwyl

 

Lowri 

 

Lowri W. Williams

 

Arweinydd Uned Safoni Termau a Chyfieithu /

Leader Terminology Standardisation and Translation Unit

Bwrdd yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Board

Ffôn / Tel: 02920 878000

Ffacs / Fax: 02920 878001

e-bost / e-mail: [log in to unmask]

 

*****

Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.

 

*****

Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of the Welsh Language Board, any constituent part or connected body.

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
Anfonwyd/Sent: 27 Tachwedd 2006 11:51
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: {SPAM}? Re: ATB: {SPAM}? Enwau Ieithoedd

 

Rwy'n methu agor y ddogfen - gwelaf mai ffeil pdf yw hi ond ar ôl ei lawrlwytho, .pd sydd ar y diwedd.

(Dwi'n gweithio ar fac)

Oes rhywbeth y galla i ei wneud i agor y ffeil?

Dylai fod yn ddefnyddiol

 

Diolch

Siân

 

On 27 Tach 2006, at 11:27, Lowri Williams wrote:



Annwyl Cathrin

 

Aeth Tîm Safoni Enwau Lleoedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ati yn ddiweddar i edrych ar enwau lleoedd y tu allan i Gymru a bydd ei restr o enwau lleoedd yn ymddangos yn fuan yn y Gronfa Genedlaethol o Dermau www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/termau . Yn y cyfamser wrth drafod enwau lleoedd edrychwyd hefyd ar enwau ieithoedd a phobloedd, a datblygodd y Tîm ganllaw wrth wneud hynny. Mae’r canllaw bellach ar wefan y Bwrdd – ‘Canllawiau wrth ddynodi enwau gwledydd, ieithoedd a phobloedd y tu allan i Gymru’ http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/cynnwys.php?cID=&pID=109&nID=2433&langID=1 . Gobeithio y bydd o gymorth iti.

 

Hwyl

Lowri

 

 

 

 

Lowri W. Williams

 

Arweinydd Uned Safoni Termau a Chyfieithu /

Leader Terminology Standardisation and Translation Unit

Bwrdd yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Board

Ffôn / Tel: 02920 878000

Ffacs / Fax: 02920 878001

e-bost / e-mail: [log in to unmask]

 

*****

Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.

 

*****

Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of the Welsh Language Board, any constituent part or connected body.

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Cathrin Alwen
Anfonwyd/Sent: 27 Tachwedd 2006 11:11
At/To: [log in to unmask]

Pwnc/Subject: {SPAM}? Enwau Ieithoedd

 

 

A oes gan unrhyw un syniad beth yw'r cyfieithiadau swyddogol ar gyfer yr ieithoedd canlynol?

Jamaican (Jamaiceg ? Neu Iaith Jamaica?
Kannada (ddim am ddefnyddio Canada gan mai dyna yw enw'r wlad)
Patois (ei adael fel ag y mae?)
Krio (Crio ynteu Krio?)

Hefyd - a ddylid Cymreigeiddio geiriau fel Qatar >>> Catar?
Rydw i o blaid cadw'r sillafiad gwreiddiol, ond beth yw eich barn chi?

Diolch ymlaen llaw
Cathrin