Diolch, Berwyn, am ail-anfon y neges hon atom yn uniongyrchol - doeddwn i ddim wedi'i darllen yn iawn ymhlith y nifer fawr oedd yn aros ar ol inni ddod yn ol o wythnos i ffwrdd.  Dyma ymateb Bruce:
 
Yng Ngeiriadur yr Academi, dilynwyd y ffurfiau a geid mewn geiriaduron diweddar, e.e. Spurrel 1937 - Caergaint, Caergrawnt [hefyd Caerweir (Durham), Caergraig (Rochester), Caerwynt, Caerly^r, Caerludw).
 
Mae'r uchod yn dilyn y r un patrwm a^'r enw 'Caerdydd', nid 'Caer-dydd'.  Ond yng ngeiriadur John Walters, 1795, gwelaf 'Caer-Grawnt', 'Caer-Gaint'.
 
Yn y 'Rhest o Enwau Lleoedd' anodd dirnad unrhyw reol o gwbl. Dyry 'Caer Gai' (hynafiaeth) ond 'Caer-gai' (fferm), ond 'Caerhun' ar gyfer y plwyf a'r hynafiaeth.  Dyry 'Caer-went' ond 'Caer Din', 'Caersw^s' nid 'Caer-sw^s'.  Hyd y gwelaf, mympwyol fu'r defnydd o'r cysylltnod erioed.
 
Popeth yn iawn o'm rhan i, i bobl ysgrifennu 'Caer-grawnt' ond a fyddant yn gyson ac yn ysgrifennu 'Caer-dydd, 'Llan-rwst' aby?
 
Bruce
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, November 14, 2006 8:39 AM
Subject: Re: Exeter

Tipyn o syndod oedd sylwi, adeg cyhoeddi Geiriadur yr Academi, fod y cysylltnod wedi'i ddileu o 'Caer-grawnt' a 'Caer-gaint'. Ffurfiau di-gysylltnod sydd hefyd i'w gweld yn Atlas Cymraeg Newydd CBAC.
 
Yn y Geiriadur Bach a'r Geiriadur Newydd, ceir y ffurfiau 'Caergrawnt' a 'Caergaint', ond erbyn y Geiriadur Mawr a'r Geiriadur Cymraeg Cyfoes, caswai'r ffurfiau hynny eu newid i 'Caer-grawnt' a 'Caer-gaint'.
 
'Caer-gaint' yw'r ffurf sydd gan Melville Richards yn Enwau Gwlad a Thref (td. 73).
 
Tybed a allai Bruce ddweud wrthym pam y colllwyd y cysylltnod?
 
Berwyn
 
----- Original Message -----
From: "Rhisiart Hincks" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 14, 2006 7:59 AM
Subject: Re: Exeter

> Tybed onid Caer-wysg (cf. Caer-grawnt) a fyddai'n gywir, a'r aceniad yn
> wahanol i Caerwys?
>
> Rhisiart
> ----- Original Message -----
> From: "David Bullock" <
[log in to unmask]>
> To: <
[log in to unmask]>
> Sent: Monday, November 13, 2006 11:51 AM
> Subject: Re: Exeter
>
>
> Wedi gweld erbyn hyn fod y ffurf "Cair Uuisc" yn digwydd yng ngwaith Asser
> yn y nawfed ganrif.
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.409 / Virus Database: 268.14.3/531 - Release Date: 12/11/2006
>
>


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.409 / Virus Database: 268.14.6/535 - Release Date: 15/11/2006