Diolch, Berwyn, am ail-anfon y neges hon atom yn uniongyrchol - doeddwn i ddim wedi'i darllen yn iawn ymhlith y nifer fawr oedd yn aros ar ol inni ddod yn ol o wythnos i ffwrdd. Dyma ymateb Bruce: Yng Ngeiriadur yr Academi, dilynwyd y ffurfiau a geid mewn geiriaduron diweddar, e.e. Spurrel 1937 - Caergaint, Caergrawnt [hefyd Caerweir (Durham), Caergraig (Rochester), Caerwynt, Caerly^r, Caerludw). Mae'r uchod yn dilyn y r un patrwm a^'r enw 'Caerdydd', nid 'Caer-dydd'. Ond yng ngeiriadur John Walters, 1795, gwelaf 'Caer-Grawnt', 'Caer-Gaint'. Yn y 'Rhest o Enwau Lleoedd' anodd dirnad unrhyw reol o gwbl. Dyry 'Caer Gai' (hynafiaeth) ond 'Caer-gai' (fferm), ond 'Caerhun' ar gyfer y plwyf a'r hynafiaeth. Dyry 'Caer-went' ond 'Caer Din', 'Caersw^s' nid 'Caer-sw^s'. Hyd y gwelaf, mympwyol fu'r defnydd o'r cysylltnod erioed. Popeth yn iawn o'm rhan i, i bobl ysgrifennu 'Caer-grawnt' ond a fyddant yn gyson ac yn ysgrifennu 'Caer-dydd, 'Llan-rwst' aby? Bruce ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, November 14, 2006 8:39 AM Subject: Re: Exeter Tipyn o syndod oedd sylwi, adeg cyhoeddi Geiriadur yr Academi, fod y cysylltnod wedi'i ddileu o 'Caer-grawnt' a 'Caer-gaint'. Ffurfiau di-gysylltnod sydd hefyd i'w gweld yn Atlas Cymraeg Newydd CBAC. Yn y Geiriadur Bach a'r Geiriadur Newydd, ceir y ffurfiau 'Caergrawnt' a 'Caergaint', ond erbyn y Geiriadur Mawr a'r Geiriadur Cymraeg Cyfoes, caswai'r ffurfiau hynny eu newid i 'Caer-grawnt' a 'Caer-gaint'. 'Caer-gaint' yw'r ffurf sydd gan Melville Richards yn Enwau Gwlad a Thref (td. 73). Tybed a allai Bruce ddweud wrthym pam y colllwyd y cysylltnod? Berwyn ----- Original Message ----- From: "Rhisiart Hincks" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, November 14, 2006 7:59 AM Subject: Re: Exeter > Tybed onid Caer-wysg (cf. Caer-grawnt) a fyddai'n gywir, a'r aceniad yn > wahanol i Caerwys? > > Rhisiart > ----- Original Message ----- > From: "David Bullock" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Monday, November 13, 2006 11:51 AM > Subject: Re: Exeter > > > Wedi gweld erbyn hyn fod y ffurf "Cair Uuisc" yn digwydd yng ngwaith Asser > yn y nawfed ganrif. > > > > -- > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG Free Edition. > Version: 7.1.409 / Virus Database: 268.14.3/531 - Release Date: 12/11/2006 > > ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.409 / Virus Database: 268.14.6/535 - Release Date: 15/11/2006