Lawr Mewn Un? Tim . . . Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth pobl o beryglon gor-yfed dros y Dolig a'r flwyddyn newydd, wedi ei hanelu'n bennaf at bobl yn eu hugeiniau. Mae poster sy'n rhoi cyngor ar beth i'w wneud cyn mynd allan, yn ystod noson allan ac ar ddiwedd y noson, ac yn amlinellu nifer yr unedau ar gyfer dynion a merched ac ati. Mae yna hefyd gerdyn maint cerdyn credyd sy'n amlinellu sawl uned sydd mewn gwydraid o win, peint o gwrw ac ati. Rhaid cael rhywbeth nad yw'n rhy dafodieithol ac y bydd y grwp targed yn uniaethu ag ef. Dyma'r cynigion hyd yma:- Ar y pop - Beth yw beth Sesh - Beth yw beth Sesiwn fawr - Beth yw beth Noson fawr - Beth yw beth Diolch ymlaen llaw am unrhyw sylwadau/awgrymiadau Rhian Huws Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road Caerdydd/Cardiff CF11 9LJ Ffôn/Telephone: 029 20227744 Ebost/Email: [log in to unmask]