Mae wastad wedi bod yn od yn 'y marn i fod Cyngor *Gofal* Cymru yn ffafrio 'cynhaliwr'. Pan newidan nhw eu henw i Gyngor Cynnal Cymru, fe fydd gyda nhw fwy o le i ddadlau o blaid 'cynhaliwr'. Mae'n drueni, ond mae'n wir, bod un unigolyn dylanwadol yn gallu cael corff cyfan i arddel ffurf sy'n wahanol i weddill y wlad i gyd. Dwy ddim yn cofio pwy soniodd, ond fe ddwedodd rhywun wrtha i rywbryd mai dyna ddigwyddodd yn achos y Cyngor Gofal a'r gair 'cynhaliwr'. Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote: Mae Cyngor Gofal Cymru yn ffafrio 'cynhaliwr'/'cynhalwyr'. Rhian Canolfan Iechyd Cymru --------------------------------- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 28 November 2006 14:51 To: [log in to unmask] Subject: carer Sef, rhywun sy'n gofalu am rhywun ifanc ag anwsterau dysgu. Beth sy'n arferol, os gwelch yn dda - gofalwr ynteu gofalydd? Diolch, Ann