Dim ond Fiddler's Elbow sy'n gyfarwydd i fi mae'n rhaid cyfadde, sef y tro cas yn yr hen ffordd rhwng Merthyr a Chaerdydd. Y gair sy'n dod i'r meddwl o ran y llwybr yw 'gwli' (wedi'i fenthyg o'r 'gulley' Saesneg sbo). Gwli maen nhw'n ei ddweud gartre yn Heolgerrig o hyd - yn y ddwy iaith - am lwybr bach cul o'r ffordd i'r ty, a pherth yn tyfu bob ochr iddo fel rheol. Ond mae'n siwr bod gwli yn rhy fanwl i olygu llwybr ym mhob cyd-destun hefyd. -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Howard Huws Anfonwyd/Sent: 21 November 2006 13:53 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: "Fiddler's Elbow" Yng Ngwent: oes yna ffurf Gymraeg ar yr enw hwn? Hefyd yng Ngwent: beth yw'r gair am lwybr yn y Wenhwyseg? Gwerthfawrogir pob awgrym.