Diolch i John am ail enwi 'Blas ar y Gwanwyn ar fore o Hydref' yn 'Spring Roll' yn y blwch 'Pwnc' yr ymholiad. Jyst i atgoffa aelodau - dim teitlau ffainsi yn pwnc unrhyw neges os gwelwch yn dda, hyd yn oed os yw'r teitl yn farddonol hyfryd - dim ond y term dan sylw (neu deitl tryloyw os nad ymholiad am derm ydyw) er mwyn i ni gael hyd iddo eto yn yr archifau mewn blynyddoedd i ddod. Delyth Ysgrifennodd Rhian Huws: >Crempog lysiau sydd yn Bruce hefyd, ond mi fedrwch chi gael sawl >gwahanol fath o 'spring roll' - cig, hwyaden, corgimychiaid a llysiau - >felly falle bod 'crempog lysiau' yn dipyn o risg, oni bai eich bod chi'n >gwybod i sicrwydd beth yw'r cynhwysion. Wedi dweud hynny, does gen i >ddim cynnig gwell, heblaw am rywbeth fel 'crempog tsieineaidd (wedi >ffrio)' neu rywbeth yr un mor anelwig! > >Rhian >Canolfan Iechyd Cymru > > >-----Original Message----- >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun >Sent: 16 October 2006 13:22 >To: [log in to unmask] >Subject: Re: Blas ar y Gwanwyn ar fore o Hydref > >Crempog lysiau sydd gan Fwrdd yr Iaith - efo treigliad. > >Falle bod well cadw at y term felly, er y byddai ychwanegu 'wedi ffrio' >yn esbonio'n well efallai. > >Catrin > >----- Original Message ----- >From: "Paul Thomas" <[log in to unmask]> >To: <[log in to unmask]> >Sent: Monday, October 16, 2006 9:57 AM >Subject: Blas ar y Gwanwyn ar fore o Hydref > > >Ymholiad eithaf anghyffredin i fore dydd Llun, ond a oes gan rywun >syniad >am sut i gyfieithu 'spring roll' yn Gymraeg. Yr unig gyfeiriad llwyddais >ddod o hyd iddo at yr amheuthun Tsieineaidd hwn oedd cynnig Geiriadur yr >Academi, sef 'crempog llysiau' ond i mi, gall hynny olygu unrhyw beth - >'vegetable crepe' er enghraifft. Hefyd mae crempog yn rhywbeth meddal >fel >arfer, ond fel mae pawb yn gwybod, mae 'spring roll' yn grimp gyda blas >ac >ansawdd hollol wahanol. Felly unrhyw awgrymiadau, unrhyw fflachiau o >ysbrydoliaeth ar ddechrau wythnos newydd? Neu ddylwn i dderbyn 'crempog >llysiau' er gwaethaf ei amwysedd? > >Diolch ymlaen llaw >Paul > > > > -- Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor. The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance Office. www.bangor.ac.uk