----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Pennawd Cyf.To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Friday, October 27, 2006 1:13 PMSubject: Re: DMU - Diesel Multiple UnitDyna ni, rhoddwn ni "aml-unedau diesel" yma, gan eu bod yn y lluosog - ac felly gallwn osgoi problem treiglo.Gyda llaw, mae Cysgair yn cynnig "disel", a Chysill yn rhoi llinell goch o dan "diesel", er bod y gair yn tarddu o enw person. Er, wedi dweud hynny, mae "beiro" i'w weld yn dderbyniol, er bod y gair hwnnw'n tarddu yn yr un modd o enw person.Dwi'n dechrau drysu nawr.Claire----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn JonesTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Friday, October 27, 2006 12:43 PMSubject: Re: DMU - Diesel Multiple Unit'Aml-Uned Ddiesel' fyddwn i'n ei roi, rwy'n meddwl. Rwy'n petruso braidd ynghylch treiglo 'diesel' gan mai enw dyfeisydd y tanwydd hwnnw oedd Rudolf Diesel ac mae rhywbeth 'm bach yn lletchwith ynghylch treiglo cyfenw tramor ...Berwyn----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Pennawd Cyf.To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Friday, October 27, 2006 10:41 AMSubject: Re: DMU - Diesel Multiple UnitOs nad oes cynnig arall gan neb, yng ngoleuni'r diffiniad a roddais i o'r blaen a'r isod"Diesel Multiple Unit or DMU: a set of diesel-powered self-propelling passenger rail vehicles usually able to operate in multiple with other such sets."dwi'n bwriadu defnyddio "cerbydau hunanyrrol diesel".Gyr A - self-propelling a. Veh. = hunanyrrolClaire
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.408 / Virus Database: 268.13.14/502 - Release Date: 27/10/2006