Print

Print


Message

Diolch, David, am grynhoi mor dwt.

Mary


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 20 October 2006 15:49
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Etc

 

Oes yna le ac amser i’r ddwy efallai?

 

Deunyddiau cymharol arbenigol, mewn arddull ffurfiol, yw’r rhan fwyaf o’r stwff sy’n dod ata i i ‘w gyfieithu, ac mae’r dyrnaid o ddarllenwyr targed yn ddigon cyfarwydd ag ‘etc.’ neu ‘a.m.’ a ‘p.m.’, a dwy ddim yn credu bod angen newid fy modus operandi mewn testunau ar gyfer cynulleidfa o’r fath.

 

Ond mae pwyslais Geraint ar yr hyn sy’n cael ei ddweud yn bwysig iawn: er mwyn cael pobl i ddarllen, mae’n rhaid i’r iaith ysgrifenedig fod yn ddigon tebyg i’w hiaith lafar nhw. Mewn pethau ar gyfer cynulleidfa anarbenigol felly, mae’n swnio’n ddoeth i mi y dylen ni ddefnyddio ‘ac yn y blaen’ neu ‘saith o’r gloch nos Iau’ neu beth bynnag.

 

A gyda llaw… os ydyn ni am wneud y gwaith darllen yn haws i bobl, byddwn i’n meddwl bod ‘ac yn y blaen’ yn haws i’w ddeall i lawer iawn o bobl na ‘ayyb’, felly efallai bod yr ymadrodd llawn yn well dewis na’r byrfodd – Lladin neu Gymraeg!

 

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Løvgreen
Anfonwyd/Sent: 20 October 2006 15:17
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Etc

 

Wel dwi'n meddwl y gwna i gadw at y Gymraeg!

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">GLENYS ROBERTS

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Friday, October 20, 2006 2:36 PM

Subject: Re: Etc

 

Llawer symlach a mwy cyson cadw at y Lladin am wn i. Dyna wna i bellach mae'n debyg, ond ella 'mod innau'n dangos fy oed. 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Gorwel Roberts

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Friday, October 20, 2006 2:12 PM

Subject: Re: Etc

 

A m wn i fod yb (y bore) ac yh (yr hwyr) yn iawn ond beth am y prynhawn (yp???).  

 

 -----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 19 October 2006 23:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Etc

Gaf fi ofyn cwestiwn ar gorn y drafodaeth am ‘etc’, ac yn y blaen. Rwy’n gweld anghysondeb mawr yn yr arfer o ddefnyddio ‘ayyb’, ac ‘ayb’ (ble ddechreuodd y ffansi hwn beth bynnag?) a hefyd ‘yb’ ac ‘yh’ am ‘am’, ‘pm’. Yn ‘ayyb’ mae disgwyl i’r ‘y’ gyntaf fod yn dalfyriad o ‘yn’, ond yn union wedyn mae ‘y’ yn sefyll am y gair cyfan, sef y fannod! A chyda’r arfer ‘yb’ ac ‘yh’ mae disgwyl i’r ‘y’ arwyddo’r fannod ‘y’ ond yn ‘yr hwyr’ disgwylir iddo fod yn dalfyriad o ‘yr’. Yn waeth na hynny, ydy ‘hwyr’ yn cyfleu unrhyw amser ar ôl 12 canol dydd yn y Gymraeg? Gwaeth byth, i’r rheiny sy’n mynnu defnyddio ‘yp’ (am ‘y prynhawn’ debyg gen i) mae ‘prynhawn’ i arwyddo hyd yn oed tua 11.16 y nos, ydy e? Onid yw’n bryd cael cysondeb? Pam yr ysfa am beidio â defnyddio’r talfyriadau Lladin beth bynnag? Oes gan rywun sylwadau, os gwelwch chi’n dda?

Mary

 

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GLENYS ROBERTS
Sent: 19 October 2006 17:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Health and Safety at Work etc. Act 1974

 

Ia, mae'n siwr y bydd yr iaith wedi symud ymlaen erbyn y flwyddyn honno ...

 

... ond yn y cyfamser, mae 'ac ati' yn swnio baidd yn anffurfiol yn y cyd-destun yma.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Geraint Løvgreen

Sent: Thursday, October 19, 2006 4:13 PM

Subject: Re: Health and Safety at Work etc. Act 1974

 

Ti'n gallu gweld 200 mlynedd i'r dyfodol rwan, wyt Catrin?  ;-)

 

faswn i'n ffafrio "ac ati" yn yr enghraifft yma.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Catrin Beard

Sent: Thursday, October 19, 2006 2:54 PM

Subject: Re: Health and Safety at Work etc. Act 1974

 

Yn Arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad (Gorffennaf 2206), mae'r cyfarwyddyd canlynol:

 

etc; ac nid 'ayb' nac 'ayyb'. Nid oes angen atalnod chwaith, oni bai ei fod ar ddiwedd brawddeg wrth gwrs

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Pennawd Cyf.
Sent: 19 October 2006 10:45
To: [log in to unmask]
Subject: Health and Safety at Work etc. Act 1974

Mae'r "etc." yn enw'r ddeddf yn Saesneg, ond yn anffodus nid yw'n ymddangos yn yr enw ar TermCymru.

 

Mae enghreifftiau o'r enw yn Gymraeg gydag "ac ati" a hefyd gydag "etc."  A wyr rhywun pa un y dylwn ei ddefnyddio?

 

Diolch.

Claire