Dw i wedi dod ar draws hwn yn yr ymadrodd "guideline water quality standards" - rwy wedi defnyddio "safonau canllaw" a dyna sydd ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd ond eu bod nhw'n dweud "safon gofynnol" a "safon canllaw" er bod "safon" yn fenywaidd.

Hwyl
Sian
On 20 Oct 2006, at 12:01, Geraint Løvgreen wrote:

Mae llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi "guideline rents" i gynghorau eu dilyn. Mae "rhenti canllaw" yn edrych yn chwithig i mi, yn enwedig mewn pennawd fel "Rhenti Meincnod, Gwirioneddol a Chanllaw..."
Tybed fase "rhenti arweiniol" yn iawn? Dwi'n teimlo mod i angen ansoddair! Oes na rywun o'r Cynulliad ar lein? Does dim byd yn Term Cymru.
 
geraint