Print

Print


Ydio yn ymwneud ag oedran, efallai - y rhai ohonom a gafodd wersi Lladin yn yr ysgol (anodd cofio fod gen i lefel O mewn Lladin ar brydiau!!) yn derbyn a.m. a p.m. yn naturiol (!) ac wedi cadw at y ffurfiau hynny - dwi'n synnu atat ti wedi mynd hefo'r llif, Wyn!
 O ddweud hynny, rwyf wedi derbyn ayyb yn hapus (ond nid ayb - disynnwyr) am mai ac yn y blaen oeddwn i'n ei ddweud yn fy meddwl bob tro welwn i et cetera!
Cysondeb - be dwi hwnnw?
magi
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Mary Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, October 19, 2006 11:16 PM
Subject: Re: Etc

Gaf fi ofyn cwestiwn ar gorn y drafodaeth am ‘etc’, ac yn y blaen. Rwy’n gweld anghysondeb mawr yn yr arfer o ddefnyddio ‘ayyb’, ac ‘ayb’ (ble ddechreuodd y ffansi hwn beth bynnag?) a hefyd ‘yb’ ac ‘yh’ am ‘am’, ‘pm’. Yn ‘ayyb’ mae disgwyl i’r ‘y’ gyntaf fod yn dalfyriad o ‘yn’, ond yn union wedyn mae ‘y’ yn sefyll am y gair cyfan, sef y fannod! A chyda’r arfer ‘yb’ ac ‘yh’ mae disgwyl i’r ‘y’ arwyddo’r fannod ‘y’ ond yn ‘yr hwyr’ disgwylir iddo fod yn dalfyriad o ‘yr’. Yn waeth na hynny, ydy ‘hwyr’ yn cyfleu unrhyw amser ar ôl 12 canol dydd yn y Gymraeg? Gwaeth byth, i’r rheiny sy’n mynnu defnyddio ‘yp’ (am ‘y prynhawn’ debyg gen i) mae ‘prynhawn’ i arwyddo hyd yn oed tua 11.16 y nos, ydy e? Onid yw’n bryd cael cysondeb? Pam yr ysfa am beidio â defnyddio’r talfyriadau Lladin beth bynnag? Oes gan rywun sylwadau, os gwelwch chi’n dda?

Mary

 

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GLENYS ROBERTS
Sent: 19 October 2006 17:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Health and Safety at Work etc. Act 1974

 

Ia, mae'n siwr y bydd yr iaith wedi symud ymlaen erbyn y flwyddyn honno ...

 

... ond yn y cyfamser, mae 'ac ati' yn swnio baidd yn anffurfiol yn y cyd-destun yma.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Løvgreen

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Thursday, October 19, 2006 4:13 PM

Subject: Re: Health and Safety at Work etc. Act 1974

 

Ti'n gallu gweld 200 mlynedd i'r dyfodol rwan, wyt Catrin?  ;-)

 

faswn i'n ffafrio "ac ati" yn yr enghraifft yma.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Catrin Beard

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Thursday, October 19, 2006 2:54 PM

Subject: Re: Health and Safety at Work etc. Act 1974

 

Yn Arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad (Gorffennaf 2206), mae'r cyfarwyddyd canlynol:

 

etc; ac nid 'ayb' nac 'ayyb'. Nid oes angen atalnod chwaith, oni bai ei fod ar ddiwedd brawddeg wrth gwrs

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Pennawd Cyf.
Sent: 19 October 2006 10:45
To: [log in to unmask]
Subject: Health and Safety at Work etc. Act 1974

Mae'r "etc." yn enw'r ddeddf yn Saesneg, ond yn anffodus nid yw'n ymddangos yn yr enw ar TermCymru.

 

Mae enghreifftiau o'r enw yn Gymraeg gydag "ac ati" a hefyd gydag "etc."  A wyr rhywun pa un y dylwn ei ddefnyddio?

 

Diolch.

Claire



__________ NOD32 1.1809 (20061018) Information __________

This message was checked by NOD32 antivirus system.
http://www.eset.com