Helo, Mae Mark Nodine, sydd am rhyw reswm yn methu postio i welsh-termau-cymraeg, wedi gofyn i fi yrru'r neges isod ymlaen ar ei ran. Hwyl Rhys ---------- Forwarded message ---------- From: Mark Nodine <[log in to unmask]> Date: 05-Oct-2006 16:07 Subject: Re: Peiriant cyfieithu To: [log in to unmask] Rhys, Does gen i ganiata^d i bostio i WELSH-TERMAU-CYMRAEG ar hyn o bryd, ond mae gen i ychydig i'w ddweud i ymateb i'ch neges. Diolch am yr eglurhad mewn neges ddiweddarach mod i, nid Nick Kibre, sy'n gyfrifol am y lecsicon dan sylw. --Mark Rhys Jones wrote: > Mae hanes y peiriant 'cyfieithu' hwn wedi ei gloriannu sawl gwaith ar > welsh-termau-cymraeg, ond dyma grynodeb fel ydw i'n ei deall hi. > > Yr hyn ddigwyddodd ar y cychwyn oedd i'r cwmni gysylltu â Nick Kibre. > Mae Nick yn enwog, ers dyddiau cynnar iawn y we, am ei gyrsiau Cymraeg > ar-lein ac am y lecsicon Cymraeg<->Saesneg sy'n gysylltiedig â hwy > (gweler http://www.cs.cf.ac.uk/fun/welsh/LexiconForms.html ). Mae'n > debyg i'r cwmni ofyn iddo am y lecsicon hwnnw. > > Yn anffodus i Nick, doedd gan y cwmni ddim arfau iaith Cymraeg ar > wahân i'r lecsicon hwnnw. Doedd dim son am gystrawen, dim son am > synnwyr brawddeg, a dydw i ddim yn meddwl fod y gair 'lemateiddiwr' > hyd yn oed yn ymddangos yn eu geiriadur nhw (newydd drio; na, dyw e > ddim). Felly cyfieithiad slafaidd gair-am-air gafwyd, ac ar ben hynny, > fe gyflwynwyd amryw o wallau wrth fewnforio'r geiriadur i'w systemau: > gweler archif y rhestr hon am fanylion. A dweud y gwir, roeddwn i'n ddrwgdybus iawn ar y pryd am brospectau o gael cyfieithiad rhesymol drwy defnyddio lecsicon yn unig, heb ddefnyddio'r cystrawen i'w arwain, ond mae'r person wedi fy nghalonogi eu bod nhw wedi gwneud yr un peth efo ieithoedd eraill. Ar y pryd, doedd dim so^n y byddai'r peiriant cyfieithu ar gael ar y We, ac mi synnais i'n ddirfawr pan gefais i wybod yr oedd safwe i'w ddefnyddio. Doedd y peiriant ddim yn gallu defnyddio fy lecsicon fel yr oedd; roedd rhaid imi ei drawsffurfio i syntax arall efo pob ffurf bosib, gan gynwys treigladau a ffurfiau rhedeg y berfau. Mae'n amlwg fod y peiriant yn cyflwyno diffiniad cyntaf y llinell gyntaf sy'n ymwneud a^'r gair. Yn yr enghraifft blaenorol "gwneud fy ngorau glas", yr oedd glas/n./monastic community, cloister, college, close glas/adj./blue, green grey (gray), pale lle mae'r llinell gyntaf yn cynrychioli'r treiglad meddal o "clas". (Duw a wy^r o ble ddaeth "rustle" -- efallai fod camgymeriad yn y meddalwedd ei hun.) Roedd y lecsicon estynedig yn ddirfarw, rhyw 80M os ydi i'n cofio'n iawn. Ydy eich barn y dylwn i gysylltu a perchen y wefan i'w rwystro rhag gwneud y wefan ar gael pellach? --Mark