Term cyfreithiol yw hwn, a 'rhagfarnu achos' mae byd y gyfraith yn ei ddefnyddio am 'to prejudice a case', hen ystyr y gair 'to pre judge - rhag farnu'. Mae'r gair wedi ei ymestyn i gynnwys 'peryglu'. Gw. Geiriadur y Gyfraith. Mary _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb Sent: 13 October 2006 09:41 To: [log in to unmask] Subject: Re: without prejudice to the generality of the foregoing Mae sawl ystyr i'r gair Saesneg 'prejudice' - ac dwi ddim yn siwr mai 'rhagfarn' yw'r cyfieithiad a fyddai'n addas yn y cyd-destun hwn. Hynny yw, nid 'bias' sydd yma ond 'detriment' - Mae GA yn cynnig "without [prejudice] to s.o./sth - heb wneud niwed/drwg i rn/rth". Ond weithiau rwy'n meddwl bod yr ystyr yn Seasneg yn mynd yn fwy eang ac y gellid rhoi 'menu ar' neu 'effeithio ar'. "heb effeithio ar [natur gyffredinol / gyffredinoldeb] y [datganiadau / cymalau / pwyntiau / telerau / beth bynnag] blaenorol. ----- Original Message ----- From: Alwyn Evans <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, October 12, 2006 10:26 PM Subject: Re: without prejudice to the generality of the foregoing beth mae o'n ei olygu yn Saesneg?? Byddai'n enghraifft arbennig o dda i yrru i'r Plain English Campaign Alwyn