Print

Print


Mae dros 100 o enghreifftiau o "Ystagbwll" (nid "Ystangbwll") ar Google.

Pam bod honno felly yn 'ffurf ffug' yn fwy natg unrhyw Gymreigiad arall o 
enwau Saesneg?

Geraint

----- Original Message ----- 
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 31, 2006 10:17 AM
Subject: ATB: ATB: Trewent Point


> Mae'n drueni bod yna un gorchymyn gan y Cynulliad yn defnyddio'r ffurf 
> ffug.
>
>
> Serch hynny, gall dyn faddau un llithriad bach, mae'n debyg, ond fydd 'na
> ddim maddeuant am gamsillafu enw Merthyr Tudful yn yr un gorchymyn, fel
> Merthyr Tydfil.
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Tim 
> Saunders
> Anfonwyd/Sent: 30 October 2006 21:09
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: ATB: Trewent Point
>
> Mae e ar gael yn neddfwriaeth y Cynulliad. Tim . . .
>
>
> Mae'n debyg gen i mai yn fwriadol y dywedodd Bruce 'Stackpole' ac nid
> 'Ystangbwll'.
>
> Dim ond 'Stackpole' sydd wedi'i gofnodi gan gan BG Charles, ac mae'r 
> diffyg
> cofnodion hanesyddol yn awgrymu felly mai ffurf ffug yw'r llall, sydd 
> wedi'i
> chreu yn gymharol ddiweddar.
>
> Oes yna wybodaeth am ble a pha bryd y daeth 'Ystangbwll' i olau dydd?
>
>
>
>
>
>
>
>  _____
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Garan
> Anfonwyd/Sent: 30 October 2006 19:24
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Trewent Point
>
>
>
> Diolch i Bruce a Berwyn.  Dylwn fod wedi nodi mai Trewent Point ger
> Ystangbwll oedd dan sylw, mae'n ddrwg gen i am hynny.  Defnyddiais Trywn
> Trewent.
>
>
>
> Diolch
>
>
>
> Hg
>
>
>
>