Print

Print


>A oes achos arall o alw anifail wrth enw'r fenyw?
Dafad. Buwch.  A all hyn fod wedi ymwneud i ryw raddau ag anifeiliaid a oedd yn ymhel mewn grwpiau, lle 'roedd sawl benyw a dim ond un gwryw?  Iawn, mi wn nad yw hyn yn gyson o bell ffordd.
 
Mae gen i syniad ein bod ni wedi cael y drafodaeth hon am gathod o'r blaen.  I mi, mae'n dibynnu pa mor dda mae rhywun yn 'nabod y gath.  Wrth son am y gath wryw sydd gennym wrth bobl ddiethr, mae'n debyg y byddwn i'n cyfeirio at Sionyn fel "hi" - dim ond cynrychiolydd o'i thylwyth - ond tasai fo wedi'i gyflwyno iddynt, neu 'taswn i'n dweud hanes amdano, a chyfeirio ato wrth ei enw, wel, "fo" fyddai.
 
Cofiaf hen ffermwr o Gymro oedd yn galw'r gath yn "she" and ci yn "he" yn Saesneg, er bod y gath yn gath wryw a'r ci yn ast.
 
Maddewch imi os ydw i wedi son am hyn o'r blaen, ond 'rwyf wedi gweld erthygl yn y "Cymro" yn son, drwyddi draw, am "gi", ond yn cyfeirio at yr anifail fel "hi" - ydy hyn oherwydd bod pobl yn teimlo embaras ynghylch y gair Saesneg "bitch" ac yn cario hyny drosodd i'r Gymraeg, ynteu dim ond anwybodaeth/diogi? 
 
Gyda llaw, mae'n siwr mai fel hyn mae pobl yn dod ar draws y gair yn bennaf - "yn ast", "yr ast" "un ast". Gwelais yn y "Cymro" eto, amser maith yn ol, erthygl gan ddyn a oedd yn hyddysg iawn ynghylch cwn defaid, yn cyfeirio'r ddi-ffael at "ast", ac yn amlwg heb sylweddoli mai "gast" oedd y gair.  'Dw i'n amau bod hynny'n eithaf cyffredin - gwelais lyfr i blant bach hefyd efo llun o "wiwer", a faint o bobl sy'n sylweddoli mai "gefeilliaid" yw "twins", nid "efeilliaid"?
 
Ann
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, September 08, 2006 2:08 PM
Subject: Re: Pa ryw?

Er 'mod i'n cytuno â ti, Geraint, mai 'ei ddesg' sy'n teimlo'n gywir gan fod 'plentyn' yn air gwrywaidd, beth am y gair 'cath'?
 
Bydd fy chwaer-yng-nghyfraith, sy'n berchen* cath, yn galw'i chath yn 'hi' ("am mai 'y gath' rwyt ti'n ei ddweud") er ei bod yn amlwg i bawb mai cwrcyn o'r cwrcod yw e!  Ai'r teimlad nad yw 'cwrcyn' yn air mor 'neis' â 'cath' sydd wrth wraidd hyn? Yr un yw'r sefyllfa yn Saesneg hefyd - 'cat' fel rheol, ond 'tomcat' os bydd angen pwysleisio'i wrywdod (ei gwrywdod?!!).
 
(* Mae gan gi berchennog; staff sydd gan gath.)
 
A oes achos arall o alw anifail wrth enw'r fenyw?
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Løvgreen
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, September 08, 2006 1:25 PM
Subject: Re: Pa ryw?

Be di'r teimlad yn gyffredinol yn y cylch felly am ddefnyddio'r "ei" gwrywaidd ar ol gair gwrywaidd fel plentyn, hyd yn oed os yw'r Saesneg yn dweud rhywbeth fel (er enghraifft) "the child should sit at his or her desk".
 
"Dylai'r plentyn eistedd wrth ei ddesg" ydi beth hoffwn i ysgrifennu yn naturiol. Ond mae'r "his or her" yn pwyso rhywun i sgwennu "ei (d)desg" neu "ei ddesg/ei desg".
 
Y cywirdeb gwleidyddol yma sydd hefyd yn gorfodi rhyw erchylleiriau fel "cyfarwyddydd" ar yr iaith !
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, September 08, 2006 12:38 PM
Subject: Re: Pa ryw?

Mae'n debyg bod yr arfer o ddefnyddio'r ffurf luosog i gyfeirio at eitem neu berson unigol yn hen un yn Saesneg gan fod enghreifftiau ohono i'w cael yng ngwaith rhyw Mr W Shakespeare (na wnaeth e, gyda llaw, erioed sillafu ei enw fel 'na!).
 
Nid bod hynny'n rheswm yn y byd dros i'r Gymraeg ddilyn arfer y Saesneg!
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">GLENYS ROBERTS
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, September 08, 2006 11:28 AM
Subject: Re: Pa ryw?

Mae'n well gen i hynny, am wn i, na'r arfer diweddar o roi 'their' bob tro mewn ymadroddion fel hyn.  Ai dim ond fi sy'n casáu brawddegau fel rhai BT - 'the caller withheld their number'?  Mi fydda i'n teimlo fel gweiddi lawr y ffôn, 'How can the caller withold their number?' Pwysau o blaid bod yn PC wedi mynd yn rhemp!
O diar, mae'r plant yn deud 'mod i'n mynd yn fwy stropi yn fy henaint!
Hwyl!
Glenys
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 08, 2006 10:28 AM
Subject: Re: Pa ryw?

Sorri, "i'w amgylchiadau"!
Ann
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <
[log in to unmask]>
To: <
[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 08, 2006 10:21 AM
Subject: Pa ryw?


Yn sgil y sylwadau yn "Sawl Un?", mae'n werth dweud ei bod hi'n hawdd iawn
llithro ynghylch rhyw ('sex' nid 'some') unigolyn  hefyd, wrth gyfieithu o'r
Gymraeg.

Yn ddiweddar, cyfieithiais i adroddiad (dychmygol) ynghylch damwain mewn
cartref hen bobl.  "Atik" oedd enw'r gofalydd, a chymerais mai gwraig
ydoedd, nes i un o'r cwestiynau ar y diwedd ddangos mai dyn oedd.

Sylwais yn ddiweddar bod sylw Kate Roberts ar "Te yn y Grug" wedi'i
gyfieithu fel hyn,""able to enter the dark recesses of a child's mind and
show a child's reaction to his circumstances".  Yr oedd y cyfieithiad ei hun
yn ddi-fai, ond mae'n amlwg bod rhywun wedi gweld rhywbeth fel "ymateb
plentyn i ei amgylchiadau" heb gofio/wybod bod y plentyn yn y novel yn
ferch.

Ann

----- Original Message -----
From: "SIAN ROBERTS" <
[log in to unmask]>
To: <
[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 08, 2006 9:54 AM
Subject: Re: Sawl un?


Bu bron i mi wneud yr un camgymeriad o chwith -
cyfieithu rhywbeth fel "Sailing Ship Festival" a dweud
"Gwyl Llongau Hwyliau" tan i mi sylwi reit ar y diwedd
mai dim ond un llong hwyliau oedd yno.

Bai'r Saesneg!

Hwyl
Sian
--- GLENYS ROBERTS <
[log in to unmask]> wrote:

> I ddilyn pwynt a gododd Ann ar gychwyn y drafodaeth
> am ffermio pysgod, ro'n 'adra' yn Llangefni dros
> w^yl y banc, ac roedd 'na arwyddion ar yr A55 yn
> cyfeirio pobl at 'Sioe Beic Ynys Môn', sef 'Anglesey
> Bike Show' mae'n debyg.  Ro'n i'n teimlo fel mynd
> allan ac ychwanegu 'Be', 'mond un beic?' at yr
> arwydd!
> Glenys


--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006


--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/442 - Release Date: 08/09/2006