Tim - pam mae negeseuon yn dod gen ti efo neges rhywun arall yn cael ei ailadrodd, ond dim byd arall? Rhywun wedi f'atgoffa o'r arfer yn Llangennech/Llwynhendy - 'Shwd y fe' maen nhw'n ddweud wrth ei gilydd - hy galw 'ti' yn 'fe' - a'r gwrywaidd bob tro! Catrin ----- Original Message ----- From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, September 08, 2006 4:48 PM Subject: Re: ATB: Pa ryw? Defnydd diddorol arall yw 'we' fel rhagenw 2ail berson - 'And how are we today?' Ond rwyn cofio darllen rywle fod enghreiftiau o ddefnyddio their fel hyn yn Saesneg iw gweld yng ngwaith Shakespeare ar Beibl, ac felly nad arfer diweddar yw e mewn gwirionedd. Pe bai athro neu athrawes yn trefnu dosbarth o blant bach at ryw wers, pa un or rhain ddweden nhw tybed: (a) has everyone got his pencil out? (b) has everyone got his or her pencil out? (c) has everyone got their pencil out? Anghofiwch am y tro mai Have you all got your pencils out ywr ateb amlwg, ac rwyn credu y bydd lawer yn cytuno mai dim ond (c) syn swnion naturiol. _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran GLENYS ROBERTS Anfonwyd/Sent: 08 September 2006 11:28 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Pa ryw? Mae'n well gen i hynny, am wn i, na'r arfer diweddar o roi 'their' bob tro mewn ymadroddion fel hyn. Ai dim ond fi sy'n casáu brawddegau fel rhai BT - 'the caller withheld their number'? Mi fydda i'n teimlo fel gweiddi lawr y ffôn, 'How can the caller withold their number?' Pwysau o blaid bod yn PC wedi mynd yn rhemp! O diar, mae'r plant yn deud 'mod i'n mynd yn fwy stropi yn fy henaint! Hwyl! Glenys ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett" < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> To: < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> Sent: Friday, September 08, 2006 10:28 AM Subject: Re: Pa ryw? Sorri, "i'w amgylchiadau"! Ann ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett" < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> To: < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> Sent: Friday, September 08, 2006 10:21 AM Subject: Pa ryw? Yn sgil y sylwadau yn "Sawl Un?", mae'n werth dweud ei bod hi'n hawdd iawn llithro ynghylch rhyw ('sex' nid 'some') unigolyn hefyd, wrth gyfieithu o'r Gymraeg. Yn ddiweddar, cyfieithiais i adroddiad (dychmygol) ynghylch damwain mewn cartref hen bobl. "Atik" oedd enw'r gofalydd, a chymerais mai gwraig ydoedd, nes i un o'r cwestiynau ar y diwedd ddangos mai dyn oedd. Sylwais yn ddiweddar bod sylw Kate Roberts ar "Te yn y Grug" wedi'i gyfieithu fel hyn,""able to enter the dark recesses of a child's mind and show a child's reaction to his circumstances". Yr oedd y cyfieithiad ei hun yn ddi-fai, ond mae'n amlwg bod rhywun wedi gweld rhywbeth fel "ymateb plentyn i ei amgylchiadau" heb gofio/wybod bod y plentyn yn y novel yn ferch. Ann ----- Original Message ----- From: "SIAN ROBERTS" < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> To: < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> Sent: Friday, September 08, 2006 9:54 AM Subject: Re: Sawl un? Bu bron i mi wneud yr un camgymeriad o chwith - cyfieithu rhywbeth fel "Sailing Ship Festival" a dweud "Gwyl Llongau Hwyliau" tan i mi sylwi reit ar y diwedd mai dim ond un llong hwyliau oedd yno. Bai'r Saesneg! Hwyl Sian --- GLENYS ROBERTS < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> wrote: > I ddilyn pwynt a gododd Ann ar gychwyn y drafodaeth > am ffermio pysgod, ro'n 'adra' yn Llangefni dros > w^yl y banc, ac roedd 'na arwyddion ar yr A55 yn > cyfeirio pobl at 'Sioe Beic Ynys Môn', sef 'Anglesey > Bike Show' mae'n debyg. Ro'n i'n teimlo fel mynd > allan ac ychwanegu 'Be', 'mond un beic?' at yr > arwydd! > Glenys -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006 -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006 -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/442 - Release Date: 9/8/2006