Roedd gan fy mhlant i gwningen ond gwryw oedd hi/e!! Roedd hi'n gwningen bert iawn ond ... Nia > ---------- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Berwyn > Jones[SMTP:[log in to unmask]] > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary > Sent: 08 September 2006 14:08 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Pa ryw? > > Er 'mod i'n cytuno â ti, Geraint, mai 'ei ddesg' sy'n teimlo'n gywir gan > fod 'plentyn' yn air gwrywaidd, beth am y gair 'cath'? > > Bydd fy chwaer-yng-nghyfraith, sy'n berchen* cath, yn galw'i chath yn 'hi' > ("am mai 'y gath' rwyt ti'n ei ddweud") er ei bod yn amlwg i bawb mai > cwrcyn o'r cwrcod yw e! Ai'r teimlad nad yw 'cwrcyn' yn air mor 'neis' â > 'cath' sydd wrth wraidd hyn? Yr un yw'r sefyllfa yn Saesneg hefyd - 'cat' > fel rheol, ond 'tomcat' os bydd angen pwysleisio'i wrywdod (ei > gwrywdod?!!). > > (* Mae gan gi berchennog; staff sydd gan gath.) > > A oes achos arall o alw anifail wrth enw'r fenyw? > > Berwyn > > ----- Original Message ----- > From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]> > To: [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > Sent: Friday, September 08, 2006 1:25 PM > Subject: Re: Pa ryw? > > Be di'r teimlad yn gyffredinol yn y cylch felly am ddefnyddio'r "ei" > gwrywaidd ar ol gair gwrywaidd fel plentyn, hyd yn oed os yw'r Saesneg yn > dweud rhywbeth fel (er enghraifft) "the child should sit at his or her > desk". > > "Dylai'r plentyn eistedd wrth ei ddesg" ydi beth hoffwn i ysgrifennu > yn naturiol. Ond mae'r "his or her" yn pwyso rhywun i sgwennu "ei (d)desg" > neu "ei ddesg/ei desg". > > Y cywirdeb gwleidyddol yma sydd hefyd yn gorfodi rhyw erchylleiriau > fel "cyfarwyddydd" ar yr iaith ! > > Geraint > > ----- Original Message ----- > From: Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]> > To: [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > Sent: Friday, September 08, 2006 12:38 PM > Subject: Re: Pa ryw? > > Mae'n debyg bod yr arfer o ddefnyddio'r ffurf luosog i > gyfeirio at eitem neu berson unigol yn hen un yn Saesneg gan fod > enghreifftiau ohono i'w cael yng ngwaith rhyw Mr W Shakespeare (na wnaeth > e, gyda llaw, erioed sillafu ei enw fel 'na!). > > Nid bod hynny'n rheswm yn y byd dros i'r Gymraeg ddilyn > arfer y Saesneg! > > Berwyn > > ----- Original Message ----- > From: GLENYS ROBERTS > <mailto:[log in to unmask]> > To: [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > Sent: Friday, September 08, 2006 11:28 AM > Subject: Re: Pa ryw? > > Mae'n well gen i hynny, am wn i, na'r arfer diweddar > o roi 'their' bob tro mewn ymadroddion fel hyn. Ai dim ond fi sy'n casáu > brawddegau fel rhai BT - 'the caller withheld their number'? Mi fydda i'n > teimlo fel gweiddi lawr y ffôn, 'How can the caller withold their number?' > Pwysau o blaid bod yn PC wedi mynd yn rhemp! > O diar, mae'r plant yn deud 'mod i'n mynd yn fwy > stropi yn fy henaint! > Hwyl! > Glenys > ----- Original Message ----- > From: "Ann Corkett" < [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> > To: < [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> > Sent: Friday, September 08, 2006 10:28 AM > Subject: Re: Pa ryw? > > > Sorri, "i'w amgylchiadau"! > Ann > ----- Original Message ----- > From: "Ann Corkett" < [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> > To: < [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> > Sent: Friday, September 08, 2006 10:21 AM > Subject: Pa ryw? > > > Yn sgil y sylwadau yn "Sawl Un?", mae'n werth dweud > ei bod hi'n hawdd iawn > llithro ynghylch rhyw ('sex' nid 'some') unigolyn > hefyd, wrth gyfieithu o'r > Gymraeg. > > Yn ddiweddar, cyfieithiais i adroddiad (dychmygol) > ynghylch damwain mewn > cartref hen bobl. "Atik" oedd enw'r gofalydd, a > chymerais mai gwraig > ydoedd, nes i un o'r cwestiynau ar y diwedd ddangos > mai dyn oedd. > > Sylwais yn ddiweddar bod sylw Kate Roberts ar "Te yn > y Grug" wedi'i > gyfieithu fel hyn,""able to enter the dark recesses > of a child's mind and > show a child's reaction to his circumstances". Yr > oedd y cyfieithiad ei hun > yn ddi-fai, ond mae'n amlwg bod rhywun wedi gweld > rhywbeth fel "ymateb > plentyn i ei amgylchiadau" heb gofio/wybod bod y > plentyn yn y novel yn > ferch. > > Ann > > ----- Original Message ----- > From: "SIAN ROBERTS" < [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> > To: < [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> > Sent: Friday, September 08, 2006 9:54 AM > Subject: Re: Sawl un? > > > Bu bron i mi wneud yr un camgymeriad o chwith - > cyfieithu rhywbeth fel "Sailing Ship Festival" a > dweud > "Gwyl Llongau Hwyliau" tan i mi sylwi reit ar y > diwedd > mai dim ond un llong hwyliau oedd yno. > > Bai'r Saesneg! > > Hwyl > Sian > --- GLENYS ROBERTS < [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> wrote: > > > I ddilyn pwynt a gododd Ann ar gychwyn y > drafodaeth > > am ffermio pysgod, ro'n 'adra' yn Llangefni dros > > w^yl y banc, ac roedd 'na arwyddion ar yr A55 yn > > cyfeirio pobl at 'Sioe Beic Ynys Môn', sef > 'Anglesey > > Bike Show' mae'n debyg. Ro'n i'n teimlo fel mynd > > allan ac ychwanegu 'Be', 'mond un beic?' at yr > > arwydd! > > Glenys > > > -- > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG Free Edition. > Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - > Release Date: 07/09/2006 > > > -- > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG Free Edition. > Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - > Release Date: 07/09/2006 > > > > _____ > > > > > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG Free Edition. > Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - > Release Date: 07/09/2006 > > > > _____ > > > > > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG Free Edition. > Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: > 07/09/2006 > > > ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************