Ond rwy’n cofio darllen rywle fod enghreiftiau o ddefnyddio “their” fel hyn yn Saesneg i’w gweld yng ngwaith Shakespeare a’r Beibl, ac felly nad arfer diweddar yw e mewn gwirionedd.

 

Pe bai athro neu athrawes yn trefnu dosbarth o blant bach at ryw wers, pa un o’r rhain ddweden nhw tybed:

 

(a) has everyone got his pencil out?

(b) has everyone got his or her pencil out?

(c) has everyone got their pencil out?

 

Anghofiwch am y tro mai “Have you all got your pencils out” yw’r ateb amlwg, ac rwy’n credu y bydd lawer yn cytuno mai dim ond (c) sy’n swnio’n naturiol.

 

 

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran GLENYS ROBERTS
Anfonwyd/Sent: 08 September 2006 11:28
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Pa ryw?

 

Mae'n well gen i hynny, am wn i, na'r arfer diweddar o roi 'their' bob tro mewn ymadroddion fel hyn.  Ai dim ond fi sy'n casáu brawddegau fel rhai BT - 'the caller withheld their number'?  Mi fydda i'n teimlo fel gweiddi lawr y ffôn, 'How can the caller withold their number?' Pwysau o blaid bod yn PC wedi mynd yn rhemp!

O diar, mae'r plant yn deud 'mod i'n mynd yn fwy stropi yn fy henaint!

Hwyl!

Glenys

----- Original Message -----

From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>

To: <[log in to unmask]>

Sent: Friday, September 08, 2006 10:28 AM

Subject: Re: Pa ryw?

 

Sorri, "i'w amgylchiadau"!
Ann
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <
[log in to unmask]>
To: <
[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 08, 2006 10:21 AM
Subject: Pa ryw?


Yn sgil y sylwadau yn "Sawl Un?", mae'n werth dweud ei bod hi'n hawdd iawn
llithro ynghylch rhyw ('sex' nid 'some') unigolyn  hefyd, wrth gyfieithu o'r
Gymraeg.

Yn ddiweddar, cyfieithiais i adroddiad (dychmygol) ynghylch damwain mewn
cartref hen bobl.  "Atik" oedd enw'r gofalydd, a chymerais mai gwraig
ydoedd, nes i un o'r cwestiynau ar y diwedd ddangos mai dyn oedd.

Sylwais yn ddiweddar bod sylw Kate Roberts ar "Te yn y Grug" wedi'i
gyfieithu fel hyn,""able to enter the dark recesses of a child's mind and
show a child's reaction to his circumstances".  Yr oedd y cyfieithiad ei hun
yn ddi-fai, ond mae'n amlwg bod rhywun wedi gweld rhywbeth fel "ymateb
plentyn i ei amgylchiadau" heb gofio/wybod bod y plentyn yn y novel yn
ferch.

Ann

----- Original Message -----
From: "SIAN ROBERTS" <
[log in to unmask]>
To: <
[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 08, 2006 9:54 AM
Subject: Re: Sawl un?


Bu bron i mi wneud yr un camgymeriad o chwith -
cyfieithu rhywbeth fel "Sailing Ship Festival" a dweud
"Gwyl Llongau Hwyliau" tan i mi sylwi reit ar y diwedd
mai dim ond un llong hwyliau oedd yno.

Bai'r Saesneg!

Hwyl
Sian
--- GLENYS ROBERTS <
[log in to unmask]> wrote:

> I ddilyn pwynt a gododd Ann ar gychwyn y drafodaeth
> am ffermio pysgod, ro'n 'adra' yn Llangefni dros
> w^yl y banc, ac roedd 'na arwyddion ar yr A55 yn
> cyfeirio pobl at 'Sioe Beic Ynys Môn', sef 'Anglesey
> Bike Show' mae'n debyg.  Ro'n i'n teimlo fel mynd
> allan ac ychwanegu 'Be', 'mond un beic?' at yr
> arwydd!
> Glenys


--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006


--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006