Bu bron i mi wneud yr un camgymeriad o chwith - cyfieithu rhywbeth fel "Sailing Ship Festival" a dweud "Gwyl Llongau Hwyliau" tan i mi sylwi reit ar y diwedd mai dim ond un llong hwyliau oedd yno. Bai'r Saesneg! Hwyl Sian --- GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]> wrote: > I ddilyn pwynt a gododd Ann ar gychwyn y drafodaeth > am ffermio pysgod, ro'n 'adra' yn Llangefni dros > w^yl y banc, ac roedd 'na arwyddion ar yr A55 yn > cyfeirio pobl at 'Sioe Beic Ynys Môn', sef 'Anglesey > Bike Show' mae'n debyg. Ro'n i'n teimlo fel mynd > allan ac ychwanegu 'Be', 'mond un beic?' at yr > arwydd! > Glenys