Er 'mod i'n gweld y pwynt, rydyn ni'n ddigon cyfarwydd â chlywed sôn am ffermwyr yn 'ffermio defaid', h.y. mae'r broses yn fwy na 'magu' defaid. Er y byddai magwrfa, wrth reswm, yn elfen bwysig iawn mewn fferm frithyllod, gallai'r fferm gynnwys elfennau eraill sy'n gysylltiedig â'r diwydiant, fel stordy bwyd, 'ysbyty' i bysgod sydd wedi'u heintio ac ati. Byddai 'fferm', felly, yn ddisgrifiad mwy cynhwysfawr, o bosib. (Gwell holi'r rhai sy'n ffermio pysgod!) Berwyn ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Thursday, September 07, 2006 4:14 PM Subject: Fish Farm Mae Bruce wedi bod yn ymwneud tipyn yn ddiweddar a^ thermau pysgodlyd, ag un peth a dynnodd ei sylw'n ddiweddar wrth ei basio ar y ffordd oedd arwydd yn cyfeirio pobl at "Fferm Brithyll". Ar wahan i'r awgrym mai dim ond un brithyll oedd ar gael ar y fferm, teimlodd nad fferm oedd y disgrifiad cywir o gwbl, ond y byddai "magwrfa" yn well. Gan fod so^n ddyddiau hyn nid yn unig am fagwrfeydd eogiaid ond hyd yn oed am fagwrfeydd co\d, meddyliodd ei bod hi'n werth crybwyll y pwynt. Gyda llaw, yn achos rhai mathau o 'bysgod', e.e. wystrys, efallai byddai 'deorfa' yn llawn cystal. Ann ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.1/440 - Release Date: 06/09/2006