Mae Bruce wedi bod yn ymwneud tipyn yn ddiweddar a^
thermau pysgodlyd, ag un peth a dynnodd ei sylw'n ddiweddar wrth ei basio ar y
ffordd oedd arwydd yn cyfeirio pobl at "Fferm Brithyll". Ar wahan i'r
awgrym mai dim ond un brithyll oedd ar gael ar y fferm, teimlodd nad fferm oedd
y disgrifiad cywir o gwbl, ond y byddai "magwrfa" yn well. Gan fod so^n
ddyddiau hyn nid yn unig am fagwrfeydd eogiaid ond hyd yn oed am fagwrfeydd
co\d, meddyliodd ei bod hi'n werth crybwyll y pwynt.
Gyda llaw, yn achos rhai mathau o 'bysgod', e.e.
wystrys, efallai byddai 'deorfa' yn llawn cystal.
Ann