Print

Print


Annwyl Delyth,
Yn ôl yr hyn a glywais peth amser yn ôl - bathiad yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yng Nghastell Nedd ryw dro oedd "ffrwchnedd" ac o   ffrwyth + Nedd .
Ond well holi Dewi Pws ei hun.
Dewi.


-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Delyth Prys
Sent: 07 September 2006 13:03
To: [log in to unmask]
Subject: ffrwchnedd

Cefais ymholiad yn ddiweddar am y gair "ffrwchnedd" (sef y gair Cymraeg am fanana yn ôl rhai).
Roeddwn i wastad wedi cymryd mai un o eiriau gwneud William Owen Pughe oedd e, ond roeddwn i'n anghywir, a does dim tystiolaeth ohono mewn testunau Cymraeg tan yn lled ddiweddar. Mae rhai yn dweud mai Dewi Pws fathodd y gair, ond dydw i ddim wedi cael cadarnhad o hyn ychwaith. Mae ychydig enghreifftiau ar y we (rhai tynnu coes gan mwyaf, diolch byth). 
Holais ein cyfeillion ar staff Geiriadur Prifysgo Cymru, ond doedd dim cofnod o'r gair ar un o'u slipiau nhw ychwaith. "Beth am holi ar TERMAU" 
oedd yr awgrym ysbrydoledig yno, felly dyma fi'n gwneud.
Oes unrhyw un ohonoch yn gwybod hanes y gair hwn, neu pryd a ble y gwelsoch chi'r gair gyntaf? Oes gwir yn y si mai Dewi Pws fathodd y gair fel joc yn y man cyntaf?

Diolch am bob help,

Delyth

--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio  defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance Office.  www.bangor.ac.uk