Print

Print


Gwahaniaethu rhwng Celf a Chelfyddyd
Oes. Wedi dweud hynny, 'celfyddyd' yn ei ffurf lawn sydd ym mhob enghraifft o 'art' + elfen arall yn y Termiadur, ond fe wnaed hynny, mae'n debyg, am fod pwysau dros roi un term yn gyfieithiad.
 
Er y gall rhythm y frawddeg helpu'r cyfieithydd weithiau i benderfynu ai 'celf' neu 'celfyddyd' yw'r dewis gorau, mae pwyso a mesur enghraifft fel 'cyfuniad o grefft a chelfyddyd yw cyfieithu'/'cyfuniad o grefft a chelf yw cyfieithu' yn awgrymu bod tuedd i 'celf' gyfeirio at y maes.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Cathrin Alwen
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, August 17, 2006 4:47 PM
Subject: ATB: Gwahaniaethu rhwng Celf a Chelfyddyd

Diolch Berwyn.

Felly, mae modd defnyddio’r ddau derm yn weddol lac yn eich barn chi ? ‘you say tomato’ ayb?

Cathrin

 

Cathrin Alwen

Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu
Translator/Translation Co-ordinator
Adran Gyhoeddiadau / Publications Department
Amgueddfa Cymru
National Museum Wales
[log in to unmask]
[log in to unmask]

(029) 20 57 3318


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn Jones
Anfonwyd/Sent: 17 Awst 2006 16:39
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Gwahaniaethu rhwng Celf a Chelfyddyd

 

Wedi ei archwilio am feirysau gan Amgueddfa Cymru. Checked for viruses by Amgueddfa Cymru - National Museum Wales.

Yn y Termiadur (2006) ceir 'art (in full) celfyddyd eb, art (short form) celf eb'. Am wn i, dyna'r cyfarwyddyd gorau rwy' wedi'i weld. Mae'r ffurf celf i'w gweld ar td. 456 Geiriadur Prifysgol Cymru (a nodyn sy'n esbonio mai talfyriad ydyw gan Iolo Morgannwg o celfydd oherwydd tybio mai terfyniad ansoddeiriol oedd yr -ydd).

 

Yn rhestr CBAC (1990?) Termau Celf, ceir 'art - celfyddyd' yn unig, er gwaetha teitl y rhestr ei hun ...

 

Er mai ffurf wneud yw hi (a chamffurfiad ar ben hynny), mae hi fel petai hi wedi plwyfo'n ddigon cysurus yn y Gymraeg am ei bod hi'n llai trymaidd ei naws na 'celfyddyd'.

 

Go brin y byddai cynhyrchwyr 'Y Sioe Gelf' wedi galw'r rhaglen yn 'Y Sioe Gelfyddyd' (nid bod teitlau rhaglenni bob amser yn rheswm cadarn dros arddel ffurfiau o'r fath!) .

 

Berwyn

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Cathrin Alwen

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Thursday, August 17, 2006 3:09 PM

Subject: Gwahaniaethu rhwng Celf a Chelfyddyd

 

Mae'n ymddangos i mi nad yw Geiriadur yr Academi yn cymeradwyo defnyddio'r gair 'Celf' , ond a ydym yn defnyddio 'celfyddyd' a 'celf' ochr yn ochr heddiw - y naill i gwmpasu pob agwedd ar gelfyddyd - cerddoriaeth, perfformio, arlunio ayb , a'r llall i gyfeirio at weithiau statig, fel printiau, cerfluniau, a gwaith arlunio.....?

Sut mae modd tynnu llinell bendant rhwng y ddau opsiwn wrth gyfieithu 'Art' i'r Gymraeg?
Cathrin

Cathrin Alwen

Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu
Translator/Translation Co-ordinator
Adran Gyhoeddiadau / Publications Department
Amgueddfa Cymru
National Museum Wales
[log in to unmask]
[log in to unmask]

(029) 20 57 3318



______________________________________________________________________
Amgueddfa Cymru
Ymwelwch a Chasgliadau Cenedlaethol Cymru AM DDIM!

www.amgueddfacymru.ac.uk

Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Visit Wales' National Collections for FREE!

www.museumwales.ac.uk
______________________________________________________________________

___________________________________________________________________
Os nad atoch chi y cyfeiriwyd yr e-bost hwn, efallai y bydd
defnyddio'r wybodaeth hon yn anghyfreithlon, felly hysbyswch
y danfonydd, os gwelwch yn dda, a dileu'r neges hon ar
unwaith. Nid yw'r farn a fynegir yn yr e-bost hwn o anghenraid
yn farn Amgueddfa Cymru
ac nid yw Amgueddfa Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw weithred
ar sail cynnwys y neges hon.
Os ydych yn amau fod y neges hon wedi cael ei rhyng-gipio
neu ei hadnewid, a fyddech cystal a hysbysu'r danfonydd.

If you are not the intended recipient of this e-mail, use of this
information may be unlawful, therefore please inform the
sender and delete the message immediately. The views
expressed in this e-mail are not necessarily those held by
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales and Amgueddfa Cymru - National Museum Wales does not accept liability for any action taken in
reliance on the contents of this message.
If you suspect that this message may have been intercepted
or amended, please notify the sender.
___________________________________________________________________


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.1/421 - Release Date: 16/08/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.1/421 - Release Date: 16/08/2006