Print

Print


Diolch Berwyn.

Felly, mae modd defnyddio'r ddau derm yn weddol lac yn eich barn chi ?
'you say tomato' ayb?

Cathrin

 

Cathrin Alwen 

Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu 
Translator/Translation Co-ordinator 
Adran Gyhoeddiadau / Publications Department 
Amgueddfa Cymru 
National Museum Wales 
[log in to unmask] 
[log in to unmask] 

(029) 20 57 3318 

________________________________

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn
Jones
Anfonwyd/Sent: 17 Awst 2006 16:39
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Gwahaniaethu rhwng Celf a Chelfyddyd

 

Wedi ei archwilio am feirysau gan Amgueddfa Cymru. Checked for viruses
by Amgueddfa Cymru - National Museum Wales.

Yn y Termiadur (2006) ceir 'art (in full) celfyddyd eb, art (short form)
celf eb'. Am wn i, dyna'r cyfarwyddyd gorau rwy' wedi'i weld. Mae'r
ffurf celf i'w gweld ar td. 456 Geiriadur Prifysgol Cymru (a nodyn sy'n
esbonio mai talfyriad ydyw gan Iolo Morgannwg o celfydd oherwydd tybio
mai terfyniad ansoddeiriol oedd yr -ydd). 

 

Yn rhestr CBAC (1990?) Termau Celf, ceir 'art - celfyddyd' yn unig, er
gwaetha teitl y rhestr ei hun ...

 

Er mai ffurf wneud yw hi (a chamffurfiad ar ben hynny), mae hi fel petai
hi wedi plwyfo'n ddigon cysurus yn y Gymraeg am ei bod hi'n llai
trymaidd ei naws na 'celfyddyd'.

 

Go brin y byddai cynhyrchwyr 'Y Sioe Gelf' wedi galw'r rhaglen yn 'Y
Sioe Gelfyddyd' (nid bod teitlau rhaglenni bob amser yn rheswm cadarn
dros arddel ffurfiau o'r fath!) .

 

Berwyn

	----- Original Message ----- 

	From: Cathrin Alwen <mailto:[log in to unmask]>  

	To: [log in to unmask] 

	Sent: Thursday, August 17, 2006 3:09 PM

	Subject: Gwahaniaethu rhwng Celf a Chelfyddyd

	 

	Mae'n ymddangos i mi nad yw Geiriadur yr Academi yn cymeradwyo
defnyddio'r gair 'Celf' , ond a ydym yn defnyddio 'celfyddyd' a 'celf'
ochr yn ochr heddiw - y naill i gwmpasu pob agwedd ar gelfyddyd -
cerddoriaeth, perfformio, arlunio ayb , a'r llall i gyfeirio at weithiau
statig, fel printiau, cerfluniau, a gwaith arlunio.....?

	Sut mae modd tynnu llinell bendant rhwng y ddau opsiwn wrth
gyfieithu 'Art' i'r Gymraeg? 
	Cathrin 

	Cathrin Alwen 

	Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu 
	Translator/Translation Co-ordinator 
	Adran Gyhoeddiadau / Publications Department 
	Amgueddfa Cymru 
	National Museum Wales 
	[log in to unmask] 
	[log in to unmask] 

	(029) 20 57 3318 

	
	
	
______________________________________________________________________
	Amgueddfa Cymru
	Ymwelwch a Chasgliadau Cenedlaethol Cymru AM DDIM!
	
	www.amgueddfacymru.ac.uk
	
	Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
	Visit Wales' National Collections for FREE!
	
	www.museumwales.ac.uk
	
______________________________________________________________________
	
	
___________________________________________________________________
	Os nad atoch chi y cyfeiriwyd yr e-bost hwn, efallai y bydd
	defnyddio'r wybodaeth hon yn anghyfreithlon, felly hysbyswch 
	y danfonydd, os gwelwch yn dda, a dileu'r neges hon ar 
	unwaith. Nid yw'r farn a fynegir yn yr e-bost hwn o anghenraid 
	yn farn Amgueddfa Cymru 
	ac nid yw Amgueddfa Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw
weithred 
	ar sail cynnwys y neges hon.
	Os ydych yn amau fod y neges hon wedi cael ei rhyng-gipio 
	neu ei hadnewid, a fyddech cystal a hysbysu'r danfonydd.
	
	If you are not the intended recipient of this e-mail, use of
this 
	information may be unlawful, therefore please inform the 
	sender and delete the message immediately. The views 
	expressed in this e-mail are not necessarily those held by 
	Amgueddfa Cymru - National Museum Wales and Amgueddfa Cymru -
National Museum Wales does not accept liability for any action taken in 
	reliance on the contents of this message.
	If you suspect that this message may have been intercepted 
	or amended, please notify the sender.
	
___________________________________________________________________

	
________________________________


	No virus found in this incoming message.
	Checked by AVG Free Edition.
	Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.1/421 - Release Date:
16/08/2006