Gwahaniaethu rhwng Celf a ChelfyddydYn y Termiadur (2006) ceir 'art (in full) celfyddyd eb, art (short form) celf eb'. Am wn i, dyna'r cyfarwyddyd gorau rwy' wedi'i weld. Mae'r ffurf celf i'w gweld ar td. 456 Geiriadur Prifysgol Cymru (a nodyn sy'n esbonio mai talfyriad ydyw gan Iolo Morgannwg o celfydd oherwydd tybio mai terfyniad ansoddeiriol oedd yr -ydd). Yn rhestr CBAC (1990?) Termau Celf, ceir 'art - celfyddyd' yn unig, er gwaetha teitl y rhestr ei hun ... Er mai ffurf wneud yw hi (a chamffurfiad ar ben hynny), mae hi fel petai hi wedi plwyfo'n ddigon cysurus yn y Gymraeg am ei bod hi'n llai trymaidd ei naws na 'celfyddyd'. Go brin y byddai cynhyrchwyr 'Y Sioe Gelf' wedi galw'r rhaglen yn 'Y Sioe Gelfyddyd' (nid bod teitlau rhaglenni bob amser yn rheswm cadarn dros arddel ffurfiau o'r fath!) . Berwyn ----- Original Message ----- From: Cathrin Alwen To: [log in to unmask] Sent: Thursday, August 17, 2006 3:09 PM Subject: Gwahaniaethu rhwng Celf a Chelfyddyd Mae'n ymddangos i mi nad yw Geiriadur yr Academi yn cymeradwyo defnyddio'r gair 'Celf' , ond a ydym yn defnyddio 'celfyddyd' a 'celf' ochr yn ochr heddiw - y naill i gwmpasu pob agwedd ar gelfyddyd - cerddoriaeth, perfformio, arlunio ayb , a'r llall i gyfeirio at weithiau statig, fel printiau, cerfluniau, a gwaith arlunio.....? Sut mae modd tynnu llinell bendant rhwng y ddau opsiwn wrth gyfieithu 'Art' i'r Gymraeg? Cathrin Cathrin Alwen Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu Translator/Translation Co-ordinator Adran Gyhoeddiadau / Publications Department Amgueddfa Cymru National Museum Wales [log in to unmask] [log in to unmask] (029) 20 57 3318 ______________________________________________________________________ Amgueddfa Cymru Ymwelwch a Chasgliadau Cenedlaethol Cymru AM DDIM! www.amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Visit Wales' National Collections for FREE! www.museumwales.ac.uk ______________________________________________________________________ ___________________________________________________________________ Os nad atoch chi y cyfeiriwyd yr e-bost hwn, efallai y bydd defnyddio'r wybodaeth hon yn anghyfreithlon, felly hysbyswch y danfonydd, os gwelwch yn dda, a dileu'r neges hon ar unwaith. Nid yw'r farn a fynegir yn yr e-bost hwn o anghenraid yn farn Amgueddfa Cymru ac nid yw Amgueddfa Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw weithred ar sail cynnwys y neges hon. Os ydych yn amau fod y neges hon wedi cael ei rhyng-gipio neu ei hadnewid, a fyddech cystal a hysbysu'r danfonydd. If you are not the intended recipient of this e-mail, use of this information may be unlawful, therefore please inform the sender and delete the message immediately. The views expressed in this e-mail are not necessarily those held by Amgueddfa Cymru - National Museum Wales and Amgueddfa Cymru - National Museum Wales does not accept liability for any action taken in reliance on the contents of this message. If you suspect that this message may have been intercepted or amended, please notify the sender. ___________________________________________________________________ ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.1/421 - Release Date: 16/08/2006