Magi, 'Rwy'n aelod o grwp trafod fel Welsh-Termau-Cymraeg (un o Grwpiau Yahoo), ond ar gyfer defnyddwyr Trados - gyda rhyw ddengwaith cymaint o aelodau. Maent yn garedig iawn ynghylch helpu efo problemau (er eu bod nhw'n tueddu i ddweud y drefn ychydig, fel yn fan hyn, os codwch rhywbeth sydd wedi ymddangos sawl gwaith yn yr archif), ac mae 'na bobl yno sydd yn medru delio a phroblemau 'dyn ni erioed wedi dod ar eu traws gyda phob math o feddalwedd. Mae grwp tebyg ar gyfer defnyddwyr Deja Vu (http://groups.yahoo.com/group/dejavu-l/ ). Dw i'n meddwl bod modd chwilio'r archif heb gofrestru, ond bydd yn rhaid cofrestru - dim yn anodd - os ydych am anfon neges, a byddwn i'n meddwl y bydd rhywun yno'n medru helpu. Gyda llaw, un mantais o grwp rhyngwladol yw y bydd 'na rywun yn effro yno ar unrhyw adeg o'r dydd a'r nos! Pob lwc! Ann ----- Original Message ----- From: [log in to unmask] To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, August 16, 2006 4:18 PM Subject: problemau technegol Anghofiwch am ferched Llangristiolus - a beth bynnag, nid y cyfieithiad sy'n bwysig ond holi pam fod Bruce yn breuddwydio amdanynt yn y lle cyntaf.....!! Mae gan Anti Magi drwy'r dydd i wrando......yn bennaf achos dwi'n methu gweithio am fy mod i'n dwp fel sledj a ddim yn deall fy nghyfrifiadur. I dorri stori hir yn fyr. A oes un ohonoch yn gweithio ar gytundeb ASGC ac yn defnyddio rhaglen Deja Vue? Rywf yn methu arbed y ffeiliau templedi newydd ma - yr XW a'r XE 000000 i Deja Vue. Rwyf yn cael negeseuon rhyfedd am macros a objects not on my machine a Visual Basic yn dweud rhywbeth am module......waeth i'r cwbl lot fod yn siarad un o ieithoedd Star Trek neu ferched Llangristiolus.... Mae Deja Vue yn dweud rhywbeth am un elfen o Cysgair hefyd.......nad wyf erioed wedi'i weld o'r blaen nac hefo unrhyw ffeil arall. Rwyf yn defnyddio'r cyfrinair wrth agor y gwaith yn y lle cyntaf..... Ta waeth, y tro diwethaf roeddwn wedi rhagori a cholli codau ASGC i gyd!! Peidiwch a gofyn sut....dwi'n meddwl mod i wedi arbed rhywbeth mewn rtf....silly me! Byddwn yn wir ddiolchgar pe bai un ohonoch yn medru anfon cyfarwyddiadau syml i mi ar sut i ddelio a hyn...ar ffurf agor y cyfrifiadur; clicia'r llygoden un waith; gwna hyn; gwna'r llall.... Nid yw ASGC yn gyfarwydd a phecyn Deja Vue.... Holais a fyddent yn fodlon anfon e bost i'r cyfieithwyr eraill ar y cytundeb i ofyn am gyfarwyddiadau ond dwi ddim yn siwr eu bod yn barod i wneud hynny......Roeddynt am holi un neu ddau, efallai, felly ymddiheuriadau os cawsoch y cwestiwn yn gynharach...... diolch o flaen llaw magi ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.10.10/419 - Release Date: 15/08/2006