Yn anffodus byddai "y chwilen gorniog fwyaf" (rhaid
dodi'r fannod o flaen pob gradd eithaf) yn rhy benagored: mae cannoedd o
filoedd o chwilod, a miloedd yn fawr ac yn gorniog. "Y chwilen fawr
gorniog" yn Gymraeg yw'r "stag beetle".
Yn llyfr Oliver Goldsmith "Hanes y Ddaear a'r
Creaduriaid Byw", cyfieithiad R E Williams, Cyf. II, t.482, cyfeirir at chwilen
o'r enw "the Larger Musk-scented Green Capricorn Beetle" a'i gyfieithu fel hyn
"y Fwysg-Afrgorn Werdd Fwyaf" - cyfieithiad trwsgl iawn, ond fe awgrymai hyn y
gellir dweud "y Chwilen afrgorn fawr" yn syml, a dyna y byddwn i'n ei
argymell.
Dylid osgoi dweud "fwyaf" yma - "giant" sydd yn
Saesneg; efallai fod chwilen fwy fyth ar gael (e.e. y "Goliath
beetle").
Bruce
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, August 16, 2006 11:28
AM
Subject: Giant Capricorn Beetle
Os nad oes gan neb enw swyddogol, a fyddai Chwilen
Gorniog Fwyaf neu Chwilen Cyrn yr Afr yn addas.
(Cerambyx Cerdo yw'r enw Lladin)
Llyr
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free
Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.10.10/419 - Release Date:
15/08/2006