Giant Capricorn BeetleYn anffodus byddai "y chwilen gorniog fwyaf" (rhaid dodi'r fannod o flaen pob gradd eithaf) yn rhy benagored: mae cannoedd o filoedd o chwilod, a miloedd yn fawr ac yn gorniog. "Y chwilen fawr gorniog" yn Gymraeg yw'r "stag beetle". Yn llyfr Oliver Goldsmith "Hanes y Ddaear a'r Creaduriaid Byw", cyfieithiad R E Williams, Cyf. II, t.482, cyfeirir at chwilen o'r enw "the Larger Musk-scented Green Capricorn Beetle" a'i gyfieithu fel hyn "y Fwysg-Afrgorn Werdd Fwyaf" - cyfieithiad trwsgl iawn, ond fe awgrymai hyn y gellir dweud "y Chwilen afrgorn fawr" yn syml, a dyna y byddwn i'n ei argymell. Dylid osgoi dweud "fwyaf" yma - "giant" sydd yn Saesneg; efallai fod chwilen fwy fyth ar gael (e.e. y "Goliath beetle"). Bruce ----- Original Message ----- From: Translation Unit To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, August 16, 2006 11:28 AM Subject: Giant Capricorn Beetle Os nad oes gan neb enw swyddogol, a fyddai Chwilen Gorniog Fwyaf neu Chwilen Cyrn yr Afr yn addas. (Cerambyx Cerdo yw'r enw Lladin) Llyr ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.10.10/419 - Release Date: 15/08/2006