Print

Print


Audrey,
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yno oddi wrth eich Gwasanaeth 
Cyfieithu. Mae'n hynod o werthfawr cael eich barn chi a barn y 
cyfeithwyr deddfwriaethol ar y materion hyn.

Delyth

Ysgrifennodd Ellis, Audrey (IMD- CISD Translation Service):

>Dyma sylwadau Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad. Rydym wedi
>ymgynghori â'n cyfieithwyr deddfwriaethol.
>
>Mae'n rhaid i enwau cwmnïau a gofrestrir yn Nhy'r Cwmnïau gynnwys y geiriau
>'limited' 'ltd' 'cyfyngedig' neu 'cyf' (neu'r geiriau neu'r byrfoddau ar
>gyfer mathau eraill o gwmnïau) ar ddiwedd yr enw.  Mae eithriadau i rai
>cwmnïau nad ydynt yn gwmnïau er elw, gofrestru heb y 'ltd' 'cyf' etc.  At
>ddibenion gwaith cyfreithiol,  byddwn ni bob amser yn defnyddio'r enw llawn
>a gofrestrwyd, boed hynny yn Gymraeg neu yn Saesneg, beth bynnag fo iaith y
>testun lle ymddengys yr enw, er mwyn osgoi rhoi rheswm i unrhyw un amau pa
>gwmni yn union sydd dan sylw. O safbwynt ymarferol, mi all defnyddio 'cyf'
>etc yn amhriodol beri trafferth i bobl sy'n delio gydag awdurdodau sy'n
>mynnu cael yr enw cofrestredig ar ffurflen.
>
>Mae'n debyg na fyddai ots o safbwynt cyfreithiol, mewn dogfen gyffredinol,
>petai rhywun yn defnyddio'r enw 'answyddogol'.  Mae'n dibynnu beth yw natur
>a bwriad y ddogfen. Ond gan ei bod yn haws yn ymarferol fabwysiadu un rheol,
>sef defnyddio'r enw a gofrestrwyd bob tro, dyna yw ein harfer ni fel
>gwasanaeth cyfieithu.
>
>Rydym hefyd yn ystyried 'cyfyngedig' a 'cyf' fel rhyw fath o law-fer am
>'[cwmni] cyfyngedig', ac felly ni threiglir 'cyfyngedig' neu 'cyf.' mewn
>enwau fel 'Asiantaeth Hwyaid Penfro Cyfyngedig' gan mai '[Cwmni] Asiantaeth
>Hwyaid Penfro [Cyfyngedig]' sydd y tu ôl i hynny.
>
>Audrey
>
>Audrey Ellis
>Swyddog Cymorth Terminoleg / Terminology Support Officer
>Y Gwasanaeth Cyfieithu / Translation Service
>Llywodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government
>Ffôn / Tel:         (029 20) 898694 
>Ffacs / Fax:      (029 20) 898043
>E-bost / E-mail: [log in to unmask]
>
>Dylid ystyried unrhyw ddatganiad neu sylw a geir yn y neges hon fel un
>personol ac nid o reidrwydd yn fynegiant o safbwynt Cynulliad Cenedlaethol
>Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff cysylltiedig.
>
>Any of the statements or comments made above should be regarded as personal
>and not necessarily those of the National Assembly for Wales, any
>constituent part or connected body.
>
>
>
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones
>Sent: 19 July 2006 15:58
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
>
>
>Barn Robyn Léwis, ar sail sgwrs ag e ar y ffôn gynnau, yw y dylid anwybyddu 
>"penderfyniad rhyw Hitler bach mewn swyddfa. Petai'n mynd yn achos gerbron 
>llys, byddai barnwr â synnwyr cyffredin yn holi beth yw 'Cyf' ond 'Ltd' yn 
>Gymraeg?"
>
>Yn atodiad 12 GNyG ('Endidau Cyfreithiol Ewropeaidd'), mae'n rhestru'r 
>byrfoddau am wahanol fathau o gwmnïau mewn gwahanol wledydd. Byddai'n dadlau
>
>o blaid cadw ffurfiau fel AG ar ddiwedd enwau cwmnïau o'r Almaen ac SA am 
>gwmnïau o Ffrainc am eu bod yn fathau o gwmnïau sy'n wahanol i'r rhai a 
>gewch chi ym Mhrydain a bod gan y gwahanol wledydd eu gwahanol ffyrdd o 
>ffurfio cwmnïau. Ond gan ein bod ni yng Nghymru yn dod o dan yr un gyfraith 
>â Lloegr, byddai'n defnyddio 'Cyf' a 'Cyfyngedig' ac 'Ccc' ar ddiwedd enwau 
>cwmnïau heb boeni dim.
>
>Berwyn
>
>----- Original Message ----- 
>From: "Pennawd Cyf." <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Monday, July 17, 2006 5:03 PM
>Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
>
>
>Endid cyfreithiol yw cwmni, ac un enw cyfreithiol sydd ganddo, sef yr enw a
>gofrestrwyd gyda Thy'r Cwmniau.
>
>A fyddai goblygiadau cyfreithiol i drosi enwau, felly?
>
>Claire
>
>
>
>
>----- Original Message ----- 
>From: "Gorwel Roberts" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Monday, July 17, 2006 4:42 PM
>Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
>
>
>Falle nad oes hawl gan y cwmni wneud hynny ond beth sy'n ein rhwystro ni
>rhag ei wneud?
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
>Sent: 17 July 2006 16:37
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
>
>
>A hefyd yn gwbl groes i'r hyn y mae Draig Technology Cyf. yn ei wneud ar hyn
>
>o bryd! Hm.
>
>
>----- Original Message ----- 
>From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Monday, July 17, 2006 4:11 PM
>Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
>
>
>Diddorol iawn - a chwbl groes i'r cyfarwyddyd a gefais flynyddoedd maith yn
>ôl!
>
>Byddai'n ddifyr gwybod pryd y cyflwynwyd y rheol 'newydd' honno, ai drwy
>ddeddf neu drwy ryw ddull arall, ac â phwy yr ymgynghorwyd. (Dyw GNyG ddim
>yn crybwyll y peth dan 'limited'.)
>
>Berwyn
>
>----- Original Message ----- 
>From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Monday, July 17, 2006 3:37 PM
>Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
>
>
>Newydd dderbyn y canlynol oddi wrth Ty'r Cwmniau:
>
>  
>
>>Yn anffodus, nid oes hawl gan gwmni gyda'r enw "ABC Ltd" defnyddio
>>"ABC
>>    
>>
>Cyf" > mewn testun Cymraeg. Rhaid defnyddio yn union enw cywir y cwmni.
>Felly bydd > rhaid i'r cwmni "ABC Ltd" defnyddio'r enw "ABC Ltd".
>  
>
>>Hefyd, nid oes hawl gan gwmni o'r enw "ABC Ltd" defnyddio "ABC
>>Limted". Dydych chi them yn gallu troi 'Ltd' i 'Limited', ond gallwch
>>chi newid 'Limited' i'r ffurf gryno 'Ltd'.
>>    
>>
>
>
>
>  
>


-- 
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office.  www.bangor.ac.uk