Dyma sylwadau Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad. Rydym wedi ymgynghori â'n cyfieithwyr deddfwriaethol. Mae'n rhaid i enwau cwmnïau a gofrestrir yn Nhy'r Cwmnïau gynnwys y geiriau 'limited' 'ltd' 'cyfyngedig' neu 'cyf' (neu'r geiriau neu'r byrfoddau ar gyfer mathau eraill o gwmnïau) ar ddiwedd yr enw. Mae eithriadau i rai cwmnïau nad ydynt yn gwmnïau er elw, gofrestru heb y 'ltd' 'cyf' etc. At ddibenion gwaith cyfreithiol, byddwn ni bob amser yn defnyddio'r enw llawn a gofrestrwyd, boed hynny yn Gymraeg neu yn Saesneg, beth bynnag fo iaith y testun lle ymddengys yr enw, er mwyn osgoi rhoi rheswm i unrhyw un amau pa gwmni yn union sydd dan sylw. O safbwynt ymarferol, mi all defnyddio 'cyf' etc yn amhriodol beri trafferth i bobl sy'n delio gydag awdurdodau sy'n mynnu cael yr enw cofrestredig ar ffurflen. Mae'n debyg na fyddai ots o safbwynt cyfreithiol, mewn dogfen gyffredinol, petai rhywun yn defnyddio'r enw 'answyddogol'. Mae'n dibynnu beth yw natur a bwriad y ddogfen. Ond gan ei bod yn haws yn ymarferol fabwysiadu un rheol, sef defnyddio'r enw a gofrestrwyd bob tro, dyna yw ein harfer ni fel gwasanaeth cyfieithu. Rydym hefyd yn ystyried 'cyfyngedig' a 'cyf' fel rhyw fath o law-fer am '[cwmni] cyfyngedig', ac felly ni threiglir 'cyfyngedig' neu 'cyf.' mewn enwau fel 'Asiantaeth Hwyaid Penfro Cyfyngedig' gan mai '[Cwmni] Asiantaeth Hwyaid Penfro [Cyfyngedig]' sydd y tu ôl i hynny. Audrey Audrey Ellis Swyddog Cymorth Terminoleg / Terminology Support Officer Y Gwasanaeth Cyfieithu / Translation Service Llywodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government Ffôn / Tel: (029 20) 898694 Ffacs / Fax: (029 20) 898043 E-bost / E-mail: [log in to unmask] Dylid ystyried unrhyw ddatganiad neu sylw a geir yn y neges hon fel un personol ac nid o reidrwydd yn fynegiant o safbwynt Cynulliad Cenedlaethol Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff cysylltiedig. Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of the National Assembly for Wales, any constituent part or connected body. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 19 July 2006 15:58 To: [log in to unmask] Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau Barn Robyn Léwis, ar sail sgwrs ag e ar y ffôn gynnau, yw y dylid anwybyddu "penderfyniad rhyw Hitler bach mewn swyddfa. Petai'n mynd yn achos gerbron llys, byddai barnwr â synnwyr cyffredin yn holi beth yw 'Cyf' ond 'Ltd' yn Gymraeg?" Yn atodiad 12 GNyG ('Endidau Cyfreithiol Ewropeaidd'), mae'n rhestru'r byrfoddau am wahanol fathau o gwmnïau mewn gwahanol wledydd. Byddai'n dadlau o blaid cadw ffurfiau fel AG ar ddiwedd enwau cwmnïau o'r Almaen ac SA am gwmnïau o Ffrainc am eu bod yn fathau o gwmnïau sy'n wahanol i'r rhai a gewch chi ym Mhrydain a bod gan y gwahanol wledydd eu gwahanol ffyrdd o ffurfio cwmnïau. Ond gan ein bod ni yng Nghymru yn dod o dan yr un gyfraith â Lloegr, byddai'n defnyddio 'Cyf' a 'Cyfyngedig' ac 'Ccc' ar ddiwedd enwau cwmnïau heb boeni dim. Berwyn ----- Original Message ----- From: "Pennawd Cyf." <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, July 17, 2006 5:03 PM Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau Endid cyfreithiol yw cwmni, ac un enw cyfreithiol sydd ganddo, sef yr enw a gofrestrwyd gyda Thy'r Cwmniau. A fyddai goblygiadau cyfreithiol i drosi enwau, felly? Claire ----- Original Message ----- From: "Gorwel Roberts" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, July 17, 2006 4:42 PM Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau Falle nad oes hawl gan y cwmni wneud hynny ond beth sy'n ein rhwystro ni rhag ei wneud? -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen Sent: 17 July 2006 16:37 To: [log in to unmask] Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau A hefyd yn gwbl groes i'r hyn y mae Draig Technology Cyf. yn ei wneud ar hyn o bryd! Hm. ----- Original Message ----- From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, July 17, 2006 4:11 PM Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau Diddorol iawn - a chwbl groes i'r cyfarwyddyd a gefais flynyddoedd maith yn ôl! Byddai'n ddifyr gwybod pryd y cyflwynwyd y rheol 'newydd' honno, ai drwy ddeddf neu drwy ryw ddull arall, ac â phwy yr ymgynghorwyd. (Dyw GNyG ddim yn crybwyll y peth dan 'limited'.) Berwyn ----- Original Message ----- From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, July 17, 2006 3:37 PM Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau Newydd dderbyn y canlynol oddi wrth Ty'r Cwmniau: > Yn anffodus, nid oes hawl gan gwmni gyda'r enw "ABC Ltd" defnyddio > "ABC Cyf" > mewn testun Cymraeg. Rhaid defnyddio yn union enw cywir y cwmni. Felly bydd > rhaid i'r cwmni "ABC Ltd" defnyddio'r enw "ABC Ltd". > Hefyd, nid oes hawl gan gwmni o'r enw "ABC Ltd" defnyddio "ABC > Limted". Dydych chi them yn gallu troi 'Ltd' i 'Limited', ond gallwch > chi newid 'Limited' i'r ffurf gryno 'Ltd'. -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.10.1/389 - Release Date: 14/07/2006 -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.10.1/389 - Release Date: 14/07/2006 PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET. On entering the GSi, this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs. Please see http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf for further details. In case of problems, please call your organisational IT helpdesk. NODER: DERBYNIWYD Y NEGES HON O'R RHYNGRWYD. Wrth fynd ar GSi, cafodd y neges e-bost hon ei sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs. Gweler http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf i gael mwy o fanylion. Os cewch unrhyw broblem, ffoniwch desg gymorth TG eich sefydliad. The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs. On leaving the GSi this email was certified virus-free. Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs. Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.