Neu / YnteuYn y bôn, y maen tramgwydd yma yw nid a yw 'ynteu' yn gywir neu'n anghywir - dw i'n meddwl bod y rhan fwyaf ohonon ni sy'n ennill ein bywoliaeth fel cyfieithwyr yn derbyn mai 'ynteu' fyddai'n gywir yn yr enghreifftiau a nodwyd - ond bod 'ynteu' yn bell braidd o'r hyn a geir ar lafar yn naturiol. Beth glywch chi gan siaradwyr Cymraeg naturiol yn y Gogledd yw rhywbeth fel 'te ta coffi dach chi isio?' Mae pobl yn gweld y ffurf 'ynteu' yn or-ffurfiol i gymharu â'r 'ta' yn yr ymadrodd hwnnw. Iawn mewn cywair ffurfiol, wrth gwrs - cofnodion ac ati. Mewn cyweiriau llai ffurfiol byddai'n dda cael ffurf ysgrifenedig sy'n cynrychioli'r iaith lafar yn agosach, ac wedyn dw i ddim yn meddwl y byddai cymaint o broblem. Yn y Gogledd efallai y dylid ystyried ysgrifennu 'ta, e.e. mewn taflenni sy'n rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd. Ond mae'n siwr y byddai ynte yn well ar gyfer deunydd i'w ddefnyddio trwy Gymru gyfan. Mae'r '-eu' ar ddiwedd ynteu yn gwneud i'r gair edrych fel rhywbeth o'r 19g. Gyda llaw - ydy 'Rydw / Dw i eisiau' yn dderbyniol bellach? ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen To: [log in to unmask] Sent: Sunday, August 20, 2006 1:07 PM Subject: Re: Neu / Ynteu Er bod 'gwybod os' yn gyffredin ar lafar, dwi'm yn meddwl y byddai neb ohonon ni'n argymell ei ysgrifennu mewn Cymraeg safonol. Felly hefyd efo 'ai hwn neu hon?', faswn i'n meddwl ! Os nad ydan ni gyfieithwyr am gadw safonau, pwy wneith? ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Sunday, August 20, 2006 10:31 AM Subject: Re: Neu / Ynteu Diolch i Bruce am roi dyfynnod bob pen i'r gair 'anghywir'. Os yw 'ynteu' wedi diflannu o iaith y de, y cwestiwn sy'n codi yw a ddylai rhywbeth sydd bellach yn 'gywir' neu'n dderbyniol yn iaith y de/gogledd, neu o leiaf ymhlith siaradwyr iaith y de/gogledd, gael ei ystyried yn 'anghywir' mewn Cymraeg safonol (a phwy sydd i ddatgan beth sy'n 'gywir' ac yn 'anghywir'). A yw 'mwy' bellach yn dderbyniol yn lle 'rhagor' ac 'ychwaneg' er mai dylanwad y gair Saesneg 'more' sydd i gyfrif amdano? A chan fod 'gwybod os' - dan ddylanwad if - bellach yn arfer gwlad, a ddylid ei dderbyn er y bydda i a Bruce ac eraill yn rhincian ein dannedd yn ddychrynllyd? (Mae'n siwr y byddai'r hen Frythoniaid wedi collfarnu eu plant am dreiglo dechreuadau rhai geiriau wrth i'r Frythoneg droi'n Gymraeg!) Gan fod iaith yn newid, ac yn gorfod newid, sut mae cysoni hynny ag ystyried bod rhai ffurfiau'n 'gywir' ac yn 'anghywir'? Ac a oes perygl i ni greu iaith ysgrifenedig sy'n gwbl wahanol i'r iaith y byddwn i ac eraill yn ei siarad bob dydd, gan ddieithrio'n darllenwyr yn enw rhyw burdeb sydd i ryw raddau'n ddim ond confensiwn (er pwysiced confensiwn) - hynny yw, yn burdeb 'gwneud'. Mae'n gwestiwn, wrth gwrs, sy'n codi ym mhob iaith fyw a bywiog ... Berwyn ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Friday, August 18, 2006 4:02 PM Subject: Re: Neu / Ynteu Rhydd i bawb ysgrifennu fel y mynno; ond yr wyf yn blino braidd ar gyfieithwyr a wyr ba beth sy'n gywir ond sy'n awyddus i 'sgrifennu'n anghywir, ac yn gofyn se^l bendith ar hynny, a'r esgus, gan amlaf, yw 'er mwyn y plantos a'r dysgwyr a'r anllythrennog' nad oes, wrth gwrs, ddisgwyl iddynt orfod gweld a chlywed Cymraeg cywir, na disgwyl iddynt ddysgu dim a fo'n newydd iddynt. Ni allaf ond ail-adrodd a phwysleisio: nid oes dim byd 'hynafol' yn 'ynteu' i neb yn y Gogledd. Siaraded Rh. Ifans a P. W. Thomas drostynt eu hunain; deheuwyr ydynt ac fel y cadarnhaodd Berwyn, collodd y deheuwyr y gwahaniaeth - eu colled hwy yw hynny - ac i Oglwedwyr ynte/ynta (ar lafar) sy'n gywir a naturiol mewn cwestiwn. Cytunwn mai ffurfiol iawn ( i mi) fyddai defnyddio "ai" o gwbl i olygu 'ynteu'; byddwn weithiau'n ei ddefnyddio *ar gychwyn* cwestiwn. Ni wn beth ar y ddaear a olygir gan 'niwtral'. Sut bynnag, erys y ffaith mai *anghywir* yw 'neu' mewn cwestiwn sy'n rhoi'r dewis rhwng dau beth cwbl wahanol. Bruce ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Friday, August 18, 2006 2:26 PM Subject: Re: Neu / Ynteu Ar dudalen 531 yn 'Gramadeg y Gymraeg', mae'r Athro Peter Wynn Thomas yn sôn am dair gradd o ffurfioldeb. Y ffurf dra ffurfiol yw 'ynteu', y ffurf ffurfiol yw 'ai' a'r ffurf niwtral yw 'neu'. Yn y 'Golygiadur' (tudalen 350), sylw Rhiannon Ifans yw '... mae blas ychydig yn hynafol ar ynteu ac mae'r arfer o wahaniaethu rhwng neu ac ynteu yn llai cyson erbyn hyn'. Berwyn ----- Original Message ----- From: Cathrin Alwen To: [log in to unmask] Sent: Friday, August 18, 2006 2:01 PM Subject: ATB: Neu / Ynteu Digon teg - ynteu amdani. Diolch Cathrin Cathrin Alwen Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu Translator/Translation Co-ordinator Adran Gyhoeddiadau / Publications Department Amgueddfa Cymru National Museum Wales [log in to unmask] [log in to unmask] (029) 20 57 3318 ---------------------------------------------------------------------- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett Anfonwyd/Sent: 18 Awst 2006 13:58 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Neu / Ynteu Wedi ei archwilio am feirysau gan Amgueddfa Cymru. Checked for viruses by Amgueddfa Cymru - National Museum Wales. Na chewch. Does dim byd hen ffasiwn ynddo ond i bobl Seisnigaidd eu meddwl. Mae 'ynteu' yn hollol fyw ymhlith siaradwyr Cymraeg naturiol. Fe wnaiff les i blant arfer Cymraeg cywir a naturiol. Dynwared Saesneg yn slafaidd yw camddefnyddio 'neu', ar sail nad oes yn Saesneg ond un gair am 'or'. Awgrymwn y byddai'r frawddeg Saesneg yn darllen yn well fel hyn 'Is it cheerful or creepy, bright or gloomy? 'Beth gymerwch chi? Te ynteu coffi?' sy'n iawn. I'r cwestiwn 'Gymerwch chi de neu goffi?' yr unig ateb cywir naturiol yw 'Cymeraf' neu 'Na chymeraf', h.y y naill neu'r llall. Gellid cyfiawnhau 'neu' mewn cwestiwn pan fo'n fater oaralleirio gair a^ gair tebyg o ran ystyr, e.e. 'Is it bright or cheerful?', 'A yw'n llawen neu'n siriol' OND NID pan fo'r ddau air yn gwbl groes, 'Ai llawen ynteu digalon oedd hi?' 'Was she wearing worn or ragged clothes, or was she smartly dressed?' - 'Oedd hi'n gwisgo dillad carpiog neu ag o^l traul arnynt, ynteu a oedd hi'n drwsiadus?' Cewch enghreifftiau eraill yn GyrA dan "or". Beth sy'n bod ar 'A yw'n llawen ynteu'n iasol, yn siriol ynteu'n dddigalon? Breuddwyd ynteu hunlle?' Dim ond clust anghyfarwydd fyddai'n clywed hynny'n fwy ailadroddus na defnyddio 'neu' 'dro ar ol tro'. Bruce (ac Ann) ----- Original Message ----- From: Cathrin Alwen To: [log in to unmask] Sent: Friday, August 18, 2006 12:50 PM Subject: Neu / Ynteu Mae Bruce yn nodi'n glir yng Ngeiriadur yr Academi mai 'ynteu' yw'r ffurf gywir (nid 'neu') os ydym yn dewis rhwng y naill neu'r llall. Ond a yw'r rheol yma wedi llacio dros y blynyddoedd ? Rwy'n cyfieithu dogfen sy'n gofyn i blant ddisgrifio gweithiau celf ag ynddi frawddegau tebyg i 'Think of words to describe the mood or atmosphere of this place. Is it cheerful, creepy, bright or gloomy? A dream or a nightmare? How would the atmosphere change if there were no birds here? Mae defnyddio 'ynteu' dro ar ol tro yn ymddangos yn llafurus a hen ffasiwn - beth yw eich barn chi? A gaf i rwydd hynt i ddefnyddio 'neu'? Cathrin Cathrin Alwen Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu Translator/Translation Co-ordinator Adran Gyhoeddiadau / Publications Department Amgueddfa Cymru National Museum Wales [log in to unmask] [log in to unmask] (029) 20 57 3318 ______________________________________________________________________ Amgueddfa Cymru Ymwelwch a Chasgliadau Cenedlaethol Cymru AM DDIM! www.amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Visit Wales' National Collections for FREE! www.museumwales.ac.uk ______________________________________________________________________ ___________________________________________________________________ Os nad atoch chi y cyfeiriwyd yr e-bost hwn, efallai y bydd defnyddio'r wybodaeth hon yn anghyfreithlon, felly hysbyswch y danfonydd, os gwelwch yn dda, a dileu'r neges hon ar unwaith. Nid yw'r farn a fynegir yn yr e-bost hwn o anghenraid yn farn Amgueddfa Cymru ac nid yw Amgueddfa Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw weithred ar sail cynnwys y neges hon. Os ydych yn amau fod y neges hon wedi cael ei rhyng-gipio neu ei hadnewid, a fyddech cystal a hysbysu'r danfonydd. If you are not the intended recipient of this e-mail, use of this information may be unlawful, therefore please inform the sender and delete the message immediately. The views expressed in this e-mail are not necessarily those held by Amgueddfa Cymru - National Museum Wales and Amgueddfa Cymru - National Museum Wales does not accept liability for any action taken in reliance on the contents of this message. If you suspect that this message may have been intercepted or amended, please notify the sender. ___________________________________________________________________ -------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.1/421 - Release Date: 16/08/2006 ---------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.2/422 - Release Date: 17/08/2006 ------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.1/421 - Release Date: 16/08/2006 -------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.3/423 - Release Date: 18/08/2006