Print

Print


Diddorol!

Diolch i bawb am eu sylwadau

Cathrin 

 

Cathrin Alwen 

Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu 
Translator/Translation Co-ordinator 
Adran Gyhoeddiadau / Publications Department 
Amgueddfa Cymru 
National Museum Wales 
[log in to unmask] 
[log in to unmask] 

(029) 20 57 3318 

________________________________

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn Jones
Anfonwyd/Sent: 18 Awst 2006 14:27
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Neu / Ynteu

 

Ar dudalen 531 yn 'Gramadeg y Gymraeg', mae'r Athro Peter Wynn Thomas yn sôn am dair gradd o ffurfioldeb. Y ffurf dra ffurfiol yw 'ynteu', y ffurf ffurfiol yw 'ai' a'r ffurf niwtral yw 'neu'.

 

Yn y 'Golygiadur' (tudalen 350), sylw Rhiannon Ifans yw '... mae blas ychydig yn hynafol ar ynteu ac mae'r arfer o wahaniaethu rhwng neu ac ynteu yn llai cyson erbyn hyn'.

 

Berwyn

	----- Original Message ----- 

	From: Cathrin Alwen <mailto:[log in to unmask]>  

	To: [log in to unmask] 

	Sent: Friday, August 18, 2006 2:01 PM

	Subject: ATB: Neu / Ynteu

	 

	Digon teg - ynteu amdani.

	Diolch
	Cathrin 

	 

	Cathrin Alwen 

	Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu 
	Translator/Translation Co-ordinator 
	Adran Gyhoeddiadau / Publications Department 
	Amgueddfa Cymru 
	National Museum Wales 
	[log in to unmask] 
	[log in to unmask] 

	(029) 20 57 3318 

	
________________________________


	Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
	Anfonwyd/Sent: 18 Awst 2006 13:58
	At/To: [log in to unmask]
	Pwnc/Subject: Re: Neu / Ynteu

	 

	Wedi ei archwilio am feirysau gan Amgueddfa Cymru. Checked for viruses by Amgueddfa Cymru - National Museum Wales.

	Na chewch.  Does dim byd hen ffasiwn ynddo ond i bobl Seisnigaidd eu meddwl.  Mae 'ynteu' yn hollol fyw ymhlith siaradwyr Cymraeg naturiol.  Fe wnaiff les i blant arfer Cymraeg cywir a naturiol.  Dynwared Saesneg yn slafaidd yw camddefnyddio 'neu', ar sail nad oes yn Saesneg ond un gair am 'or'.  

	 

	Awgrymwn y byddai'r frawddeg Saesneg yn darllen yn well fel hyn 'Is it cheerful or creepy, bright or gloomy?

	 

	'Beth gymerwch chi? Te ynteu coffi?' sy'n iawn.

	I'r cwestiwn 'Gymerwch chi de neu goffi?' yr unig ateb cywir naturiol yw 'Cymeraf' neu 'Na chymeraf',  h.y y naill neu'r llall.

	 

	Gellid cyfiawnhau 'neu' mewn cwestiwn pan fo'n fater oaralleirio gair a^ gair tebyg o ran ystyr, e.e. 'Is it bright or cheerful?', 'A yw'n llawen neu'n siriol' OND NID pan fo'r ddau air yn gwbl groes, 'Ai llawen ynteu digalon oedd hi?'

	 

	'Was she wearing worn or ragged clothes, or was she smartly dressed?' - 'Oedd hi'n gwisgo dillad carpiog neu ag o^l traul arnynt, ynteu a oedd hi'n drwsiadus?'

	 

	Cewch enghreifftiau eraill yn GyrA dan "or".

	 

	Beth sy'n bod ar 'A yw'n llawen ynteu'n iasol, yn siriol ynteu'n dddigalon?  Breuddwyd ynteu hunlle?'  Dim ond clust anghyfarwydd fyddai'n clywed hynny'n fwy ailadroddus na defnyddio 'neu' 'dro ar ol tro'.  

	 

	Bruce (ac Ann)

	 

	 

	----- Original Message ----- 

		From: Cathrin Alwen <mailto:[log in to unmask]>  

		To: [log in to unmask] 

		Sent: Friday, August 18, 2006 12:50 PM

		Subject: Neu / Ynteu

		 

		Mae Bruce yn nodi'n glir yng Ngeiriadur yr Academi mai 'ynteu' yw'r ffurf gywir (nid 'neu') os ydym yn dewis rhwng y naill neu'r llall. Ond a yw'r rheol yma wedi llacio dros y blynyddoedd ? 

		Rwy'n cyfieithu dogfen sy'n gofyn i blant ddisgrifio gweithiau celf ag ynddi frawddegau tebyg i 

		'Think of words to describe the mood or atmosphere of this place.  Is it cheerful, creepy, bright or gloomy? A dream or a nightmare?  How would the atmosphere change if there were no birds here?

		Mae defnyddio 'ynteu' dro ar ol tro yn ymddangos yn llafurus a hen ffasiwn - beth yw eich barn chi?  A gaf i rwydd hynt i ddefnyddio 'neu'?

		Cathrin

		Cathrin Alwen

		Cyfieithydd/Cydlynydd Cyfieithu

		Translator/Translation Co-ordinator

		Adran Gyhoeddiadau / Publications Department

		Amgueddfa Cymru 

		National Museum Wales

		[log in to unmask]

		[log in to unmask]

		(029) 20 57 3318

		
		
		______________________________________________________________________
		Amgueddfa Cymru
		Ymwelwch a Chasgliadau Cenedlaethol Cymru AM DDIM!
		
		www.amgueddfacymru.ac.uk
		
		Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
		Visit Wales' National Collections for FREE!
		
		www.museumwales.ac.uk
		______________________________________________________________________
		
		___________________________________________________________________
		Os nad atoch chi y cyfeiriwyd yr e-bost hwn, efallai y bydd
		defnyddio'r wybodaeth hon yn anghyfreithlon, felly hysbyswch 
		y danfonydd, os gwelwch yn dda, a dileu'r neges hon ar 
		unwaith. Nid yw'r farn a fynegir yn yr e-bost hwn o anghenraid 
		yn farn Amgueddfa Cymru 
		ac nid yw Amgueddfa Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw weithred 
		ar sail cynnwys y neges hon.
		Os ydych yn amau fod y neges hon wedi cael ei rhyng-gipio 
		neu ei hadnewid, a fyddech cystal a hysbysu'r danfonydd.
		
		If you are not the intended recipient of this e-mail, use of this 
		information may be unlawful, therefore please inform the 
		sender and delete the message immediately. The views 
		expressed in this e-mail are not necessarily those held by 
		Amgueddfa Cymru - National Museum Wales and Amgueddfa Cymru - National Museum Wales does not accept liability for any action taken in 
		reliance on the contents of this message.
		If you suspect that this message may have been intercepted 
		or amended, please notify the sender.
		___________________________________________________________________

		
________________________________


		No virus found in this incoming message.
		Checked by AVG Free Edition.
		Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.1/421 - Release Date: 16/08/2006

	
________________________________


	No virus found in this incoming message.
	Checked by AVG Free Edition.
	Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.2/422 - Release Date: 17/08/2006