Diolch yn fawr, Neil a Dafydd, am fy ngoleuo. Felly Rhyngwyneb rhwng Cymhwysiad a Rhaglen ydio? Ydi API yn fyrfoddyn mor gyffredin fel ei bod yn well ei adael fel'na? ----- Original Message ----- From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, August 01, 2006 9:52 PM Subject: Re: application programmers interface >> Application Programmers Interface (API), unrhywun? > > Wedi ystyried, dwi'n cytuno gyda Neil mai nid 'rhaglen' yw > Application yn yr ystyr yma. I ddweud y gwir mae'n haws > deall API wrth ei ddiffiniad cywir "Application Program > Interface". > > Hynny yw, pwrpas API yw caniatau Application i siarad gyda > Program drwy gyfarwyddiadau safonol. > > Mae yna ystyr pendant i Application yn y byd cyfrifiadurol ac > allwch chi ddim dianc o hynny. Mae'r "Application Software" > (e.e. Word) yn gwneud defnydd o'r "System Software" (e.e. Windows > XP) drwy alwadau i'r API (a mae nifer ohonynt). > > Er enghraifft, mae yna safonau ar gyfer graffeg fel fod unrhyw > "Application" yn gallu siarad a'r caledwedd graffeg drwy API safonol. > Mae hyn yn golygu fod pob cwmni yn gallu cystadlu gyda'i gilydd gan > sicrhau fod pob caledwedd graffeg yn cydweithio a phob meddalwedd. > > Mae'n anffodus fod 'Rhaglen' wedi (mwy neu lai) ei safoni ar gyfer > "application". Efallai ei fod yn 'haws' ond dyw e ddim yn gywir a mae > cyfieithu llac yn dueddol o codi problemau fel hyn yn y pen draw.