> Pa mor ifanc yw ifanc? Dysgais deipio yn yr ysgol gynradd yn y 70au > ac mae'n gas gen i weld dim ond un bwlch rhwng brawddegau. Ai fi > yw'r unig un sy'n meddwl bod dau fwlch yn ei gwneud yn haws i'r > llygad weld diwedd brawddeg? Efallai ar deipiadur ond pwy sy'n defnyddio un o rhain heddiw? Mae ychydig yn ddi-bwynt defnyddio dau fwlch mewn unrhyw destun electronig, gan fod bron popeth yn mynd i gael ei arddangos mewn ffeil Word, PDF neu ar wefan (hyd yn oed os yw wedyn yn cael ei argraffu). Os yw'r testun yn cael ei gyhoeddi yn y ffurf hynny, yna dylunydd y ddogfen/wefan ddylai benderfynu ar y fformat. Mae HTML, er enghraifft, yn anwybyddu unrhyw nifer olynol o fylchau ond mae'r dylunydd yn gallu penodi unrhyw arddulliau fel mewnoli, bylchau ac yn y blaen. Ychydig iawn o bobl sydd yn darllen ebost mewn ffont lled sefydlog hefyd (hynny yw - pob llythyren o'r un lled, fel teipiadur). Er mod i'n o'r rhai prin sy'n gwneud hynny, dwi ddim yn gweld gymaint o fantais i fwlch-dwbl chwaith (ffasiwn oedd e, dim mwy). Os oeddwn i'n ddylunydd, mae'n bosib fasen i'n poeni mwy amdano, wrth ddefnyddio ffont sefydlog.