Print

Print


Cytuno, mae dau fwlch ar ddechrau brawddeg yn haws o lawer i'r llygaid, yn
enwedig mewn pentwr o dudalennau a'r testun yn drwch!
Nia

> ----------
> From: 	Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Huw
> Garan[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: 	Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 	18 August 2006 12:04
> To: 	[log in to unmask]
> Subject: 	Re: Dangos eich oed
> 
> Pa mor ifanc yw ifanc?  Dysgais deipio yn yr ysgol gynradd yn y 70au ac
> mae'n gas gen i weld dim ond un bwlch rhwng brawddegau.  Ai fi yw'r unig
> un sy'n meddwl bod dau fwlch yn ei gwneud yn haws i'r llygad weld diwedd
> brawddeg?  Dw i ddim yn mewnoli paragraffau mewn e-byst a dogfennau Word
> ac ati, ond yn ei wneud heb feddwl wrth roi pin (pin inc go iawn, nid
> beiro) ar bapur.
>  
> Hg
>  
>  
> -----Original Message-----
> From: [log in to unmask]
> To: [log in to unmask]
> Sent: Fri, 18 Aug 2006 11.27AM
> Subject: Dangos eich oed
> 
> 
> Mae rhaid ei bod hi'n dawel adeg yma; mae trafodaeth hir wedi bod yn mynd
> ymlaen ymysg grwp trafod Trados ynghylch pobl sy'n dal i bwyso'r "space
> bar" ddwywaith rhwng brawddegau (rhywbeth a ddysgais i ei wneud yn
> awtomatig yng Ngholeg Ceredigion tua 1978, ond yn wir, 'rwyf wedi sylwi ei
> fod yn diflannu).  Mae'n debyg bod yr arfer wedi newid erbyn hyn ond:
>  
> "> Usually, the double space is a good indicator of a persons 
> > age, yet this gets diluted when a younger person learned 
> > typing from an older person who didn't keep up with standards. 
> 
> "Another typical indicator is indenting for paragraphs, especially in a
> medium like e-mail."
>  
> (Gyda llaw, erbyn hyn mae gen i XP yn Saesneg ar y PC, ac XP yn Gymraeg ar
> y laptop, fel y gallaf gymharu'r geiriad os oes angen - ond 'dw i'n rhy
> ddiog i gychwyn y lap-top i weld beth yw "space-bar")
>  
> Ann
> 
> 


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************